Ymddengys nad oes gan reolwr Caerdydd, Mick McCarthy, unrhyw bryderon newydd cyn dewis ei dîm am ymweliad Derby ym Mhencampwriaeth Sky Bet.

Dychwelodd Joe Ralls, chwaraewr canol cae’r adar gleision, o anaf i’w ffêr yn ystod y gêm ddydd Sadwrn yn Middlesbrough, tra bod Junior Hoilett yn eilydd na chafodd ei ddefnyddio yn y gêm honno ar ôl colli pedair gêm gyda phroblem croth y goes (calf).

Fodd bynnag, nid yw’r amddiffynnwr sydd ar fenthyg o Arsenal, Jordi Osei-Tutu, wedi chwarae ers mis Hydref ac nid yw ar gael o hyd.

Ni chafodd Lee Tomlin, sydd hefyd wedi bod yn absennol am bedwar mis, ei ddewis ar gyfer y tîm dan 23 ddydd Llun, sy’n golygu y gallai fod yn rhan o’r gêm yn erbyn Derby – neu fe allai fod wedi dioddef problem gyda’i adferiad.

Derby County

Bydd Derby yn asesu’r gôl-geidwad David Marshall cyn y daith i dde Cymru.

Gadawodd Marshall y cae gyda phroblem gyda’i gefn yn ystod y gêm nos Wener yn erbyn Nottingham Forest, gyda Kelle Roos yn barod i ddirprwyo os oes angen.

Mae’r blaenwr Jack Stretton, sydd heb ymddangos ers canol mis Rhagfyr, yn ôl yn dilyn ei anaf yntau.

Mae’r Cymro, Tom Lawrence, yn parhau ar y cyrion gydag anaf i’w ffêr, tra bod Krystian Bielik (penglin) a Curtis Davies (achilles) allan am y tymor.