Mae Ian St John, cyn-bêldroediwr Lerpwl a chyd-gyflwynydd y rhaglen deledu boblogaidd ‘Saint and Greavsie’ gyda Jimmy Greaves, wedi marw’n 82 oed.
Chwaraeodd yr Albanwr mewn 425 o gemau i Lerpwl a sgorio 118 o goliau, ac fe enillodd e 21 o gapiau dros ei wlad gan sgorio naw gôl.
Roedd yn aelod o dîm enwog a llwyddiannus Bill Shankly yn y 1960au, gan ennill y gynghrair ddwy waith a sgorio’r gôl fuddugol yn ffeinal Cwpan FA Lloegr yn 1965.
Ar ôl rhoi’r gorau i chwarae yn 1973, aeth yn ei flaen i reoli Motherwell, clwb ei dref enedigol, a Portsmouth.
Ond efallai ei fod yr un mor adnabyddus erbyn hyn fel cyd-gyflwynydd y rhaglen deledu ‘Saint and Greavsie’, ochr yn ochr â Jimmy Greaves, un o fawrion Spurs a Lloegr.
Mae Clwb Pêl-droed Lerpwl wedi cydymdeimlo â’r teulu.
Datganiad y teulu
Mewn datganiad, dywed teulu Ian St John iddo farw’n dawel yn dilyn salwch hir.
Maen nhw wedi diolch i Ysbyty Arrowe Park lle bu’n derbyn triniaeth, ac wedi gofyn am breifatrwydd, gan ddiolch i’r rhai fu’n gofalu amdano.
Dywed y teulu ei fod yn ŵr, tad a thad-cu