Mae Josep Maria Bartomeu, cyn-Lywydd Clwb Pêl-droed Barcelona, wedi cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad Heddlu Catalwnia i honiadau o bardduo sawl cyn-chwaraewr a chyn-swyddog y clwb.

Mae e ymhlith pedwar o bobol sydd wedi cael eu harestio a’u holi, wrth i’r heddlu chwilio swyddfeydd yn stadiwm Camp Nou y tîm.

Y prif weithredwr Oscar Grau, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol Gomez Ponti ac ymgynghorydd y Llywydd Jaume Masferrer yw’r tri arall, yn ôl adroddiadau yn y wasg leol.

Bydd Bartomeu a Masferrer yn cael eu cadw yn y ddalfa wrth i’r heddlu barhau i’w holi, ond mae lle i gredu na chafodd Grau na Ponti eu cadw yn y ddalfa.

Yr ymchwiliad

Mae ymchwiliad yr heddlu’n ymwneud â ‘Barcagate’ y llynedd, pan gafodd swyddogion Clwb Pêl-droed Barcelona eu cyhuddo o ymgyrch i bardduo chwaraewyr a chyn-chwaraewyr oedd wedi beirniadu’r clwb a Bartomeu.

Mae’r clwb yn gwadu honiadau iddyn nhw gyflogi a gor-dalu cwmni i wneud sylwadau negyddol ar y cyfryngau cymdeithasol am eu chwaraewyr a’u gwrthwynebwyr er mwyn hybu eu delwedd eu hunain.

Cafodd y cwmni ei gyhuddo o ddefnyddio cyfrifon ffug i wneud hyn.

Ymhlith y chwaraewyr dan sylw roedd Lionel Messi, oedd yn anhapus yn y clwb ar y pryd, yr amddiffynnwr Gerard Pique a’r cyn-reolwr Pep Guardiola.

Cyhoeddodd y clwb adroddiad yn ddiweddarach yn dangos nad oedd unrhyw swyddog wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Ymddiswyddodd Bartomeu a’r bwrdd cyfarwyddwyr y llynedd yn dilyn yr helynt, gyda’r etholiad ar gyfer Llywydd newydd i’w gynnal yr wythnos nesaf.

Mae un o’r ymgeiswyr, Joan Laporta, wedi cadarnhau bod Bartomeu wedi cael ei arestio, gan ddweud y byddai’r digwyddiad yn niweidio delwedd y clwb.

Ymateb y clwb

Mewn datganiad, dywed y clwb eu bod nhw’n cydymffurfio ag ymchwiliad yr heddlu.

Maen nhw hefyd yn dweud bod ganddyn nhw’r “parch mwyaf” tuag at y broses farnwrol a’r egwyddor fod unigolion yn ddieuog hyd nes bod modd profi i’r gwrthwyneb.