Mae Elliot Dee, bachwr Cymru, wedi ymrwymo i’r Dreigiau drwy lofnodi cytundeb newydd, er nad yw hyd y cytundeb newydd wedi cael ei ddatgelu.

Mae’r gŵr 26 oed wedi chwarae i’r rhanbarth mewn 115 o gemau ers mis Hydref 2013.

Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Georgia ym mis Tachwedd 2017, ac mae wedi cynrychioli ei wlad mewn 35 o gemau rhyngwladol.

Roedd yn rhan o garfan Cymru a gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn 2019.

“Mae Elliot yn angerddol am chwarae i’r Dreigiau ac yn benderfynol o chwarae rhan fawr yn ein llwyddiant yn y dyfodol fel rhanbarth,” meddai Dean Ryan, Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau.

“Mae ganddo dargedau ar gyfer y dyfodol, i’r Dreigiau a Chymru, ac rydym yn falch ei fod yn teimlo mai ein hamgylchedd ni yw’r lle gorau iddo gyflawni’r nodau hynny.”

Elliot Dee eisiau helpu’r Dreigiau i “symud ymlaen a bod yn llwyddianus”

“Cefais fy magu yn gwylio’r Dreigiau, mae’n agos at fy nghalon ac rwy’n falch bob tro dw i’n gwisgo’r crys,” meddai Elliot Dee, a gafodd ei eni yng Nghasnewydd.

“Fel plentyn oedd yn arfer eistedd yn y dorf a breuddwydio am chwarae i’r Dreigiau, y freuddwyd oedd chwarae unwaith. Felly roedd cyrraedd 100 y tymor diwethaf yn foment arbennig.

“Nawr gallaf edrych ymlaen at lawer mwy i ddod.

“Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r rhanbarth hwn wrth symud ymlaen ac rwyf am chwarae rhan fawr yma.

“Dyna pam rwy’n aros, i’n helpu i symud ymlaen a bod yn llwyddianus.”