Mae joci amatur a hyfforddwr ceffylau dan y lach ar ôl i fideo a llun ohonyn nhw’n eistedd ar geffyl oedd wedi marw ddod i’r fei.

Mae’r joci Rob James wedi ymddiheuro am fod yn “gwbl amhriodol ac amharchus” ar ôl i fideo ohono ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol, ddau ddiwrnod ar ôl i lun o Gordon Elliott yn gwneud yr un fath gael ei gyhoeddi.

Mae Bwrdd Rheoleiddio Rasio Ceffylau Iwerddon yn ymchwilio i’r mater, ar ôl i fideo o Rob James ymddangos ar Twitter neithiwr (nos Lun, Mawrth 1).

Cafodd y fideo ei chreu ar Ebrill 30, 2016, ac fe ddaeth i’r amlwg fod y ceffyl wedi marw o drawiad ar y galon wrth ymarfer y bore hwnnw.

Mewn llun o Gordon Elliott, mae’n eistedd ar geffyl tra ei fod e ar ei ffôn symudol, ac fe ddaeth y llun hwnnw i’r fei nos Sadwrn (Chwefror 27).

Bydd ymchwiliad i’r digwyddiad hwnnw’n cael ei gynnal ddydd Gwener (Mawrth 5), ac mae nifer o berchnogion wedi penderfynu symud eu ceffylau o’i iard.