Roedd gorfoledd i dîm pêl-droed Caerdydd ond siom i dîm Casnewydd yn eu gemau neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 2).

Mae’r Adar Gleision yn dal yn ddi-guro o dan y rheolwr Mick McCarthy ar ôl chwalu Derby o 4-0 yn y Bencampwriaeth a chodi i’r safleoedd ail gyfle.

Mae McCarthy bellach wedi casglu 24 o bwyntiau yn ei ddeg gêm wrth y llyw.

Sgoriodd Leandro Bacuna ddwywaith, gyda’r Cymry Kieffer Moore a Will Vaulks hefyd yn rhwydo.

Mae’r tîm wedi codi o’r pymthegfed safle i chweched yn y tabl ers i’r Gwyddel o Barnsley olynu Neil Harris.

Casnewydd yn colli

Saith munud yn unig gymerodd hi i Tranmere fynd ar y blaen yn erbyn Casnewydd, sy’n cwrso dyrchafiad o’r Ail Adran.

Sgoriodd Liam Feeney y gôl fuddugol o ymyl y cwrt cosbi ac er i dîm Mike Flynn greu sawl cyfle, wnaethon nhw fethu â manteisio arnyn nhw.

Nicky Maynard a Padraig Amond ddaeth agosaf i’r rhwyd, ond arhosodd y golwr Peter Clarke yn gadarn rhwng y pyst.

Ac fe allai Casnewydd fod wedi cael cic o’r smotyn ddwy funud cyn y diwedd pan oedd awgrym fod Calum MacDonald wedi llawio’r bêl yn y cwrt cosbi.

Ar ddiwedd y gêm, roedd Mike Flynn yn feirniadol o gamgymeriadau ei dîm.