Mae cwest wedi dod i’r casgliad fod Peter Whittingham, cyn-bêldroediwr Caerdydd, wedi marw trwy ddamwain ar ôl cwympo i lawr y grisiau mewn tafarn yn y Barri.

Clywodd y cwest i farwolaeth y dyn 35 oed ei fod e a’i ffrindiau wedi mynd i hwyliau ar ôl bod yn yfed ar ddiwrnod gêm rygbi Cymru yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Cafodd e anafiadau difrifol i’w ben yn nhafarn Park Hotel ar Fawrth 7, ac fe fu farw yn yr ysbyty 11 diwrnod yn ddiweddarach ar ôl mynd yn anymwybodol wedi’r ddamwain.

Roedd i criw yn eu hwyliau mewn coridor ac fe gollodd ei gydbwysedd wrth gerdded trwy ddrws tân a chwympo i lawr y grisiau toc ar ôl 9.30yh.

Tystiolaeth

Dywedodd Amanda Whittingham, gwraig Peter, ei fod e wedi gadael eu cartref am oddeutu 3 o’r gloch y prynhawn heb fod wedi bwyta ers amser brecwast a’i fod e wedi gadael ar frys er mwyn mynd i weld y gêm.

Dywedodd Robert Williams, brawd ei wraig, eu bod nhw a ffrind arall, Ryan Taylor, wedi bod yn yfed lager, tequila a chwrw yn ystod y prynhawn a’r nos.

Ond dywedodd nad oedd e’n gallu cofio’r noson dan sylw na chwaith fod Peter Whittingham wedi cwympo.

Dywedodd ei fod e wedi dod o hyd iddo ar waelod y grisiau ac wedi ceisio’i helpu.

Dywedodd Ryan Taylor ei fod e’n cofio bod pobol eisiau cael tynnu eu llun gyda’r pêl-droediwr yng nghoridor y dafarn, ond nad oedd e’n ei gofio fe’n cwympo cyn ei weld e ar lawr.

Clywodd y cwest fod ei lygaid ar agor ond nad oedd e’n symud.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ond fe waethygodd ei gyflwr ac fe fu farw ar Fawrth 18.

Tystiolaeth meddyg

Dywedodd Dr Christopher Hingston, un o feddygon Ysbyty Athrofaol Caerdydd, nad oedd Peter Whittingham yn ymateb o gwbl, a’i fod e wedi cael y sgôr coma isaf posib wrth gael ei dderbyn i’r ysbyty.

Roedd gwaed wedi cronni rhwng ei benglog a’i ymennydd ac roedd gwaedli a chwyddo ar ei ymennydd hefyd.

Cafodd e ofal diwedd oes cyn ei farwolaeth.

Gyrfa

Cafodd Peter Whittingham ei eni yn Nuneaton, gan ddechrau ei yrfa gydag Aston Villa, y tîm roedd e’n ei gefnogi yn blentyn.

Roedd e’n aelod o’r garfan enillodd y Cwpan FA Ieunctid yn 2002, ac fe aeth yn ei flaen i chwarae 66 o weithiau i’r tîm cyntaf, gan dreulio cyfnodau ar fenthyg yn Burnley a Derby cyn ymuno â Chaerdydd yn 2007.

Chwaraeodd e i Gaerdydd yn ffeinal Cwpan FA Lloegr yn 2008 a ffeinal Cwpan Carling yn 2012, gan ennill medal enillwyr y Bencampwriaeth y tymor canlynol wrth i’r Adar Gleision gael eu dyrchafu i’r Uwch Gynghrair.

Chwaraeodd e fwy na 450 o weithiau i dîm y brifddinas gan sgorio 98 o goliau dros gyfnod o ddegawd cyn gorffen ei yrfa gyda Blackburn yn 2018.

Roedd e a’i wraig yn byw yn ardal Dinas Powys ym Mro Morgannwg, ac fe gafodd eu mab ei eni yn 2018.

Roedden nhw’n disgwyl eu hail blentyn adeg ei farwolaeth fis Mai y llynedd.