Mae disgwyl i Gwpan Rygbi’r Byd y merched yn Seland Newydd gael ei gohirio tan y flwyddyn nesaf.

Roedd disgwyl i’r gystadleuaeth gael ei chynnal rhwng Medi 18 a Hydref 16 eleni.

Ond mae World Rugby yn argymell gohirio’r gystadleuaeth oherwydd heriau Covid-19.

Bydd bwrdd Cwpan Rygbi’r Byd a bwrdd gweithredol World Rugby yn ystyried y mater yr wythnos nesaf.

Mae World Rugby yn dweud bod yr argymhelliad “yn seiliedig ar esblygiad y tirlun Covid-19 ansicr a heriol”.

Maen nhw’n dweud bod y sefyllfa’n golygu “nad yw’n bosib cyflwyno’r amgylchfyd i’r holl dimau gael bod ar eu gorau ar lwyfan mwya’r gamp”.