Fe wnaeth Y Drenewydd drechu Pen-y-bont o 2-0 ym Mharc Latham i godi o safleoedd y gwymp yng nghynghrair bêl-droed JD Cymru Premier wrth i’r gynghrair ailddechrau.

Hon oedd y gêm gyntaf yn y gynghrair ers 10 wythnos, a chafodd hi ei darlledu’n fyw ar Facebook.

Roedd angen buddugoliaeth ar Y Drenewydd, oedd wedi ennill tair gêm yn unig y tymor hwn cyn neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 2).

Ond roedd goliau gan Tyrone Ofori a James Davies yn ddigon i sicrhau’r pwyntiau i’r tîm cartref.

Roedd Y Drenewydd o dan y lach ym munudau cynnar y gêm wrth i Ben-y-bont reoli’r bêl ond ar ôl naw munud, ildiodd amddiffynwr y tîm oddi cartref, Matthew Harris, gic o’r smotyn.

Ac er i Tyron Ofori fethu’r gic o’r smotyn, gwnaeth yn iawn am hynny ar ôl 17 munud drwy benio’r bêl i gefn y rhwyd.

Wedi’r hanner, dyblodd James Davies fantais Y Drenewydd gyda’i bedwaredd gôl y tymor hwn.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Y Drenewydd wedi codi o’r unfed safle ar ddeg i nawfed, tra bod Pen-y-bont yn aros yn y chweched safle.

Bydd Y Drenewydd yn herio’r pencampwyr, Cei Connah, oddi cartref ddydd Sadwrn (Mawrth 6), tra bod Pen-y-bont yn teithio i’r Fflint.