Bydd tîm pêl-droed Abertawe’n teithio i Stoke heno (nos Fercher, Mawrth 3, 8.15yh) yn y gobaith o wneud yn iawn am eu canlyniadau diweddar.
Mae tîm Steve Cooper wedi colli dwy o’u tair gêm ddiwethaf, a fydden nhw ddim o reidrwydd yn dewis gêm ganol wythnos yn Stoke i gael eu tymor yn ôl ar y trywydd iawn.
Tan yn ddiweddar, roedd yr Elyrch wedi bod yn hedfan, gan lygadu lle yn y safleoedd dyrchafiad awtomatig, ond maen nhw bellach yn bedwerydd a phedwar pwynt islaw’r ddau dîm uchaf yn y tabl.
Maen nhw wedi colli yn erbyn Bristol City a Huddersfield yn ddiweddar ond maen nhw hefyd wedi chwarae dwy gêm yn llai na’r timau o’u cwmpas nhw yn y tabl.
Maint yr her
Serch hynny, mae golwg ar ganlyniadau’r gorffennol yn Stoke yn dangos maint yr her i’r Elyrch.
Dim ond unwaith maen nhw wedi ennill yn Stadiwm bet365, a daeth honno yn 2001 yn yr Ail Adran.
Serch hynny, fe allai fod yn gyfnod da i herio Stoke, sydd wedi ennill dwy gêm yn unig allan o 13, gan gipio dim ond deg pwynt allan o 33.
Mae sefyllfa anafiadau’r Elyrch yn ddigon positif erbyn hyn, gyda’r amddiffynnwr Ryan Bennett allan o hyd ond Brandon Cooper yn yr un safle yn dychwelyd i’r fainc dros y penwythnos ar ôl gwella o anaf i’w ffêr.
Mae Wayne Routledge hefyd yn parhau i wella ar ôl dychwelyd o anaf.
Ond mae Liam Cullen, Steven Benda a Tivonge Rushesha allan am gyfnodau hir, tra bo’r Americanwr Jordan Morris wedi mynd adref am driniaeth ar ôl cael ei anafu’n ddiweddar.
‘Prawf cryf’
Mae Steve Cooper yn dweud ei fod e’n disgwyl “prawf cryf” yn Stoke.
“Mae ganddyn nhw chwaraewyr sydd wedi costio llawer o arian – ac mae rheswm da am hynny – ac rydych chi’n gwybod y bydd herio Stoke yn brawf cryf, waeth bynnag am eu perfformiadau diweddar,” meddai.
“Rydyn ni’n ei thrin hi felly, ond rydyn ni wir eisiau mynd yno gyda’r meddylfryd cywir, yn hyderus ac yn ymroi i’r ffordd rydyn ni’n chwarae a’r hyn y gallwn ni ei wneud ar y noson.
“Gall cymaint ddigwydd o hyd, fel rydyn ni’n gwybod o’r tymor diwethf, felly mae pwnc fel a ydyn ni wedi cael tymor da neu beidio yn un ar gyfer diwedd y tymor, mewn gwirionedd.
“Nawr, mae’n fater o ddylifro pan fo’n cyfri, sef ar ddiwrnodau gemau, ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n barod i fynd oherwydd dyna’r pethau y gallwn ni eu rheoli.”