Mae tîm pêl-droed Casnewydd yn gobeithio y bydd eu capten Joss Labadie yn holliach i herio Tranmere yn Prenton Park heno (nos Fawrth, Mawrth 2).

Doedd e ddim ar gael i herio Stevenage dros y penwythnos ar ôl cael anaf yn y gêm flaenorol yn erbyn Walsall.

Mae pawb arall yn y garfan yn holliach.

Ar ôl y gêm ddi-sgôr yn erbyn Stevenage, gallai’r rheolwr Mike Flynn droi at Jake Scrimshaw, Padraig Amond a Ryan Taylor.

Bydd Tranmere heb y chwaraewr canol cae Otis Khan oherwydd anaf i linyn y gâr, a does dim disgwyl iddo fe ddychwelyd am rai wythnosau eto.

Mae Kyle Hayde allan hefyd, ac yntau wedi anafu ei goes, ac mae amheuon am yr amddiffynnwr canol Sid Nelson oherwydd anaf yn ystod y gêm yn erbyn Caerliwelydd (Carlisle).

Mae Tranmere wedi ennill deg allan o’u 13 gêm diwethaf.