Mae cymdeithasau pêl-droed gwledydd Prydain, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi croesawu cefnogaeth Llywodraeth Prydain i’w cais i gynnal Cwpan y Byd FIFA yn 2030.

Mae Cymdeithasau Pêl-droed Cymru, Lloegr, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a’r Alban, a phartneriaid llywodraethau Prydain ac Iwerddon, yn dweud eu bod nhw’n hapus bod Llywodraeth Prydain wedi ymrwymo i gefnogi cais y pum cymdeithas.

Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n parhau i wneud gwaith asesu hyfywedd y cais cyn i FIFA agor y broses yn ffurfiol yn 2022.

Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru y byddai cynnal Cwpan y Byd FIFA yn gyfle anhygoel i sicrhau manteision pendant i’r cenhedloedd.

“Os penderfynir gwneud cais am y digwyddiad, mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn edrych ymlaen at gyflwyno ein cynigion i FIFA a’r gymuned bêl-droed fyd-eang ehangach,” meddai’r Gymdeithas mewn datganiad.

Y ceisiadau eraill

Mae lle i gredu bod Moroco am wneud cais, o bosib ar y cyd ag Algeria a Thiwnisia, tra bod Wrwgwai, yr Ariannin, Periw a Chile am gyflwyno cais ar y cyd.

Mae disgwyl i Rwmania, Groeg, Bwlgaria a Serbia ddod at ei gilydd, gyda Sbaen a Phortiwgal hefyd yn debygol o gydweithio ar gais arall.

Mae Camerŵn, yr Aifft, Colombia, Ecwador a Pheriw hefyd wedi dangos diddordeb, ond does dim cadarnhad o’u ceisiadau unigol hyd yn hyn.