Mae ymchwiliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi datgelu fod dynes oedrannus wedi bod yn gaeth i’w chartref am wyth mlynedd oherwydd oedi o ran ei llawdriniaeth.

Cyn ei marwolaeth, roedd y ddynes, nad yw hi wedi cael ei henwi, yn byw â dementia, a daeth yr ymchwiliad ar ôl i’w mab, sydd heb ei enwi chwaith, gwyno am y gofal a gafodd ei ddiweddar fam yn Ysbyty Glan Clwyd, sy’n dod o dan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Roedd y gŵyn yn ymwneud â’r ffaith y bu oedi llawfeddygol, yn mynd yn ôl i 2011, gan yr Adran Golonig-Refrol, mewn perthynas â’i fam.

Roedd y gŵyn hefyd yn sôn am ddigonolrwydd y gofal meddygol gan Ymgynghorydd Gofal yr Henoed ym mis Mai 2018.

Roedd mab y ddynes hefyd yn honni bod oedi wedi bod wrth wneud diagnosis o ganser yr ofarïau.

Penderfyniadau anghyson

Cafodd y cyfle i ddarparu gofal iechyd ei golli ar sawl achlysur, yn ôl ymchwiliad yr Ombwdsmon.

Dywedodd nad oedd penderfyniadau na rhesymeg glinigol y llawfeddygon yn gyson o 2011 ymlaen.

Cafodd dewisiadau mwy syml eu diystyru, gan gynnwys triniaethau llai ymyrrol, am ddewisiadau triniaeth risg uchel, anghonfensiynol, na fyddai wedi bod o fudd mawr, neu o unrhyw fudd clinigol i’r ddynes.

O ganlyniad i’r methiannau, bu’n rhaid iddi ymdopi â’r anurddas sylweddol a pharhaus.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cytuno i sawl argymhelliad, gan gynnwys ymddiheuriad llawn i fab y ddynes a gwahoddiad i gymryd rhan mewn proses iawndal sy’n cyfateb i’r broses Gweithio i Wella.

Cytunodd hefyd i rannu pwyntiau dysgu clinigol yr achos hwn ac adolygu sut y mae tîm y Colon a’r Rhefr yn ymgymryd â thriniaethau penodol.

“Anghyfiawnder sylweddol”

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod “y diffyg eglurder clinigol a’r negeseuon cymysg a roddwyd i’r fam ynglŷn â manteision colostomi yn golygu mai dim ond ar ddiwrnod y llawdriniaeth, ym mis Mawrth 2018, y dywedwyd wrthi’n bendant na fyddai’r driniaeth o fudd…”

“Penderfynodd hi beidio â bwrw ymlaen â’r llawdriniaeth,” meddai.

“O ganlyniad, bu’n rhaid iddi ddioddef blynyddoedd o anurddas yn ddyddiol wrthi iddi ddelio â’i chyflwr a’r effaith gorfforol a meddyliol a gafodd y methiannau arni hi a’i theulu.

“Mae’n amlwg y bu anghyfiawnder sylweddol yn yr achos hwn.”