Mae perchennog cwmni teganau Cymraeg cyntaf Cymru yn dweud mai hiraeth sydd yn gyfrifol am brysurdeb diweddar y cwmni yn ystod y pandemig.

Y cwmni o Fôn oedd y cyntaf erioed i greu tegan – Seren Swynol – oedd yn canu yn Gymraeg.

Sefydlodd Awena Walkden, o Borthaethwy, a’i gŵr, gwmni Si-lwli Cymru yn 2016 pan oedd eu merch yn cael trafferth cysgu.

Ond er gwaethaf colli £18,000 i sgam hacio yn 2019, anhawsterau mewnforio yn sgil Brexit, a’r cyfnodau clo mae’r cwmni “yn mynd o nerth i nerth”.

“Roedd fy merch, Cadi, yn cael trafferth syrthio i gysgu, ac fe wnaethon ni ddyfeisio Seren Swynol, tegan sy’n canu hwiangerddi Cymraeg,” meddai Awena Walkden, perchenog y cwmni.

“Fe aethon ni ymlaen wedyn i ddyfeisio Draigi ar gyfer fy mab Mabon, sef draig goch sy’n canu caneuon rygbi; o Sosban Fach i Calon Lân!

“Doedden ni ddim wedi bwriadu i’r peth fynd ymhellach na’n pedair wal ni. Mi sefydlon ni gwmni ar ddamwain, bron!”

Effaith Covid a’r dolig prysuraf erioed

Ond mae’n cydnabod nad oedd y pandemig yn fêl i gyd i’r cwmni.

“Gan fod y siopau wedi gorfod cau am bedwar mis, fe stopion ni gynhyrchu’r teganau’n gyfan gwbwl,” meddai.

“Prosiect yn ystod y nosweithiau ydi’r busnes. Roedd trïo jyglo gwaith llawn amser, addysgu o gartref, a gofalu am fabi ifanc yn ddigon. Roedd yn rhaid i ni roi stop dros dro ar y busnes.

“Ond ar ddiwedd 2020 mi gawson ni un o’r Nadoligau mwyaf llwyddiannus erioed.

“Dwi’n clywed gan lawer o bobol bod hiraeth, a hiraeth y cyfnod clo, yn rhan bwysig o’u penderfyniad i brynu ein cynnyrch.

“A hiraeth am Gymru a’r Gymraeg hefyd.”

‘Cadw’r Gymraeg yn fyw’

Bellach mae 15% o werthiant y cwmni y tu allan i Gymru.

“Rydan ni’n helpu i gadw’r Gymraeg yn rhan naturiol o’r cartref yn ystod cyfnod o addysgu gartref,” meddai Awena Walkden wedyn.

“Mae’n gwneud y Gymraeg yn rhan flaenllaw o fywyd pob-dydd teuluoedd. Mae’n cael ei chlywed.

“Mewn cartrefi ddwyieithog, mae gan y Saesneg fantais enfawr. Mae ’na adnoddau di-ben-draw ar gael yn yr iaith honno.

“Mae’n bwysig iawn i blant allu cysylltu gyda’u hiaith mewn ffordd hwylus, a’r ffordd orau o neud hynny yw drwy chwarae.”