Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud y bu cynnydd o 40% mewn achosion o ecsbloetio a meithrin perthynas amhriodol gyda phlant ar y we ers dechrau’r pandemig Covid-19.

Dywed Tîm Ymchwilio Ar-lein Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi gweld mwy o gynnydd mewn achosion o’r fath dros y 12 mis diwethaf nag y gwelson nhw yn ystod y pedair blynedd ers y cafodd y tîm ei sefydlu.

Mae rhieni a gofalwyr wedi cael rhybudd i fod yn ymwybodol o bwy mae eu plant yn siarad â nhw ar-lein – yn ogystal â dweud wrth bobol ifanc i beidio â chredu bod “ffrindiau” ar-lein yn onest am bwy ydyn nhw.

“Mae’r cynnydd mewn achosion sy’n dod atom ers dechrau’r cyfyngiadau symud a’r cyfyngiadau cymdeithasol yn frawychus,” meddai’r Ditectif Ringyll Shaun Davies.

“Mae plant yn treulio mwy a mwy o amser ar-lein, ac yn cael sgyrsiau gyda phobol nad ydyn nhw’n eu hadnabod.

“Mae pobol ar-lein yn manteisio ar y ffaith fod plant yn ynysu, yn colli eu ffrindiau ac angen cwmni.

“Ein hofn ni yw, gydag absenoldeb oedolion dibynadwy – athrawon, gweithwyr clybiau ieuenctid, hyfforddwyr chwaraeon – y bydd mwy a mwy o blant yn dioddef gyda neb i droi atynt.

“Rydym am sicrhau ein bod yn dal yma i dderbyn ac ymchwilio i adroddiadau.

“Mae gennym gymorth arbenigol ar gael, ac ni fyddwn byth yn barnu dioddefwyr.”

Beth maen nhw’n ei wneud?

Esbonia fod troseddwyr ar-lein yn dechrau sgyrsiau gyda dwsinau o blant ar yr un pryd, gan ddefnyddio’r un llinell agoriadol dro ar ôl tro.

Maen nhw’n newid eu henw proffil, eu gwybodaeth a’u llun yn seiliedig ar y plentyn maen nhw’n ceisio ei dargedu, ac yn defnyddio nifer o wefannau ac apiau i ddod o hyd i ddioddefwyr.

“Yr hyn rydyn ni’n ei weld yw troseddwyr ar-lein yn targedu naïfrwydd plant a phobl ifanc,” meddai.

“Maen nhw’n ceisio gwneud ffrindiau â’u dioddefwyr gan eu gwneud i deimlo’n arbennig, ond defnyddio’r drafodaeth i’w denu a’u twyllo y maen nhw mewn difrif.

“Does ganddyn nhw ddim pwysau amser, a gallant gynnal amryw o sgyrsiau yn ystod un noson.”

Dyfeisio dull o fonitro

Mae swyddogion a staff Tîm Ymchwilio Ar-lein Heddlu Dyfed-Powys wedi dyfeisio dull o weld a darllen pob sgwrs ar-lein sy’n ymwneud â rhywun sy’n destun ymchwiliad ar gyfer troseddau ar-lein yn erbyn plant.

Mae’r rhain yn cynnwys negeseuon testun ac amlgyfrwng, nodiadau, hanes y we, logiau galwadau a sgyrsiau ar apiau gan gynnwys Facebook Messenger, WhatsApp, iMessage, Tinder, KIK, MeetMe, Omegle a Whisper.

Mae rhieni’n cael eu hannog i ddechrau sgyrsiau gyda’u plant am gadw’n ddiogel ar-lein, i fod yn ymwybodol o bwy maen nhw’n siarad â nhw, ac i egluro’r risgiau o dderbyn ceisiadau gan bobol nad ydyn nhw’n eu hadnabod.