Fe fydd y ddedfryd a gafodd ei rhoi i weithiwr amddiffyn o Abertawe am dorri’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol yn cael ei herio am fod yn rhy drugarog.
Cafodd Simon Finch ei garcharu am bedair blynedd a hanner fis Tachwedd y llynedd ar ôl iddo ddatgelu gwybodaeth “ddinistriol” am system daflegrau Brydeinig.
Plediodd e’n euog i gyhuddiad o recordio a datgelu cudd-wybodaeth yn groes i’r Ddeddf, a hynny ar ôl i farnwr wrthod ei ddadl iddo weithredu “dan bwysau”.
Fe wnaeth e hefyd gyfaddef iddo wrthod fethu â rhoi mynediad i’r awdurdodau i sawl dyfais electronig.
Bydd Michael Ellis QC yn dadlau mewn gwrandawiad yn y Llys Apêl heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 2) nad oedd y ddedfryd yn ddigon llym.
Y dadleuon
Clywodd Llys yr Old Bailey y gallai Simon Finch, sy’n 50 oed ac sydd â nodweddion awtistig, fod wedi peryglu nifer o bobol pe bai’r wybodaeth wedi mynd i ddwylo’r bobol anghywir.
Clywodd y llys hefyd fod ei fywyd wedi dechrau dadfeilio ar ôl iddo ddioddef ymosodiadau homoffobig yn 2013.
Ar ôl hynny, fe ddechreuodd e gario arfau “i’w amddiffyn ei hun” tra ei fod e allan yn Southport yng Nglannau Mersi.
Yn 2016, cafodd ei gadw yn y ddalfa er mwyn cynnal asesiad seiciatryddol, ac fe gafodd e ddedfryd ohiriedig yn ddiweddarach am fod â morthwyl a machete yn ei feddiant mewn lle cyhoeddus.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, anfonodd e e-bost yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol at wyth person arall, ac roedd yn honni iddo rannu’r neges gyda gwladwriaethau “gelyniaethus”.
Ar y pryd, roedd yn gweithio i gwmnïau BAE Systems a QinetiQ, sy’n is-gontractwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn ogystal â’r Weinyddiaeth Amddiffyn hithau “yn y gorffennol pell”.
Fe adawodd ei swydd gyda BAE Systems fis Chwefror 2018 gan symud i Abertawe, lle anfonodd ei neges beryglus ddeng mis yn ddiweddarach.
Cafodd rhannau o’r achos yn yr Old Bailey eu cynnal y tu ôl i ddrysau caëedig yn sgil natur y wybodaeth oedd yn cael ei datgelu, a hynny hefyd yn absenoldeb y wasg.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd Mrs Ustus Whipple fod troseddau Simon Finch “yn ddifrifol” ac yn “niweidiol” i Lywodraeth a thrigolion Prydain.
Cafodd e orchymyn pum mlynedd hefyd gyda’r bwriad o’i atal rhag datgelu rhagor o wybodaeth gyfrinachol.