Fe fydd pobol dros 65 oed yn Ffrainc yn dechrau cael mynediad at frechlyn AstraZeneca Rhydychen ar ôl i lywodraeth y wlad wneud tro pedol.

Maen nhw wedi dal y brechlyn yn ôl hyd yn hyn yn sgil pryderon fod diffyg tystiolaeth ynghylch pa mor effeithiol yw e wrth atal Covid-19.

Pobol dan 65 oed yn y maes meddygol yn unig oedd wedi’u blaenoriaethu’n gyntaf, ond dywed y llywodraeth y bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i bobol dros 50 oed sydd â chyflyrau iechyd yn fuan.

Dim ond un pigiad o frechlyn Pfizer-BioNTech neu Moderna fydd ei angen ar bobol sydd eisoes wedi cael y feirws, yn ôl y llywodraeth, lle byddai dau ddos fel arfer yn cael eu rhoi.

Yn ôl awdurdodau iechyd Ffrainc, mae cael y feirws yn cynnig rhywfaint o amddiffynfa rhag y feirws ac felly does dim angen ail ddos ar y bobol hynny.

Mae Ffrainc wedi defnyddio llai na chwarter eu 1.1m o frechlynnau hyd yn hyn, ond mae disgwyl i’r ymgyrch frechu godi stêm dros y dyddiau nesaf.