Mae ymgyrchwyr sy’n ceisio achub Ysgol Talwrn, sydd mewn perygl o gau, yn dweud na ddylid cynnal ymgynghoriad yn ystod pandemig Covid-19.

Mae’r ymgyrchwyr yn poeni nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed, ac fe gafodd eu pryderon eu codi yn ystod cyfarfod rhithwir gyda Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru ym Môn.

Maen nhw’n poeni bod y cyfyngiadau clo yn effeithio ar eu gallu i wrthwynebu cynlluniau Cyngor Sir Ynys Môn yn effeithiol, gan alw ar yr awdurdodau lleol i ohirio’r broses ymgynghori nes bod modd cyflwyno gwrthwynebiad yn llawn.

Yn ôl cynlluniau’r Cyngor Sir, fe fydd Ysgol Talwrn yn cau, a byddai’r disgyblion yn cael eu symud i Ysgol y Graig yn Llangefni, a’r ysgol honno’n cael ei hehangu i dderbyn y disgyblion ychwanegol.

Daeth y cyfnod ymgynghori i ben yr wythnos ddiwethaf, ond mae’r ymgyrchwyr yn dweud nad oedd y drefn yn ddigon agored, gyda’r cynlluniau’n cael eu gweithredu ar adeg pan fo’r disgyblion gartref a’r ymgyrchwyr yn methu cyfarfod wyneb yn wyneb â’r Cyngor Sir.

‘Cymuned ar miwt’

Dywed Rhun ap Iorwerth mewn datganiad fod yr ymgyrchwyr wedi cysylltu â fe i ddatgan eu gwrthwynebiad i’r cynlluniau.

Mae e wedi ysgrifennu at y Cyngor Sir eisoes i ofyn am gael gohirio’r cynlluniau tra bo’r pandemig yn parhau, ond mae’r Cyngor wedi gwrthod gohirio’r broses.

“Er fy mod yn deall bod yn rhaid i’r Cyngor ddelio â materion ar wahân i Covid-19, mae yma gymuned sydd ddim yn gallu cymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori – ni allant gyfarfod wyneb yn wyneb, maen nhw’n dweud wrthyf fod cyfyngiadau covid, ynghyd â chysylltiad rhyngrwyd gwael yn yr ardal, wedi effeithio ar eu gallu i gyfarfod yn rhithwir, ac o ganlyniad maen nhw’n teimlo fel cymuned “ar miwt”,” meddai.

“Mae ymgynghoriadau niferus yn sicr o adael creithiau ar gymuned, ac mae’r ffaith bod cyfleoedd i leisio barn y gymuned mor gyfyngedig ar hyn o bryd yn ychwanegu at y teimladau o anhegwch.

“Byddaf yn parhau i alw ar y Cyngor i ystyried pob opsiwn sydd ar gael iddynt, a byddaf yn ysgrifennu atynt eto yn dilyn y cyfarfod hwn i fynegi dyfnder y teimlad.”

Ymateb ymgyrchydd

Yn ôl Rachael Jones, un o’r ymgyrchwyr sy’n gofalu am blant ardal Talwrn, dylai’r ysgol gael dyfodol disglair.

“Mae’r ysgol wedi cael ei rhestru’n ‘Wyrdd’ yn ddiweddar, mae’r Cylch yn brysur ac mae fy musnes bach yn brysur o ganlyniad,” meddai.

“Rwy’n poeni am yr effaith y byddai cau’r ysgol yn ei gael ar fy musnes, ond rwy’n wirioneddol bryderus am yr effaith y byddai’n ei gael ar ein cymuned.

“Rwy’n gwybod nad yw rhai rhieni’n cofrestru eu plant yn yr ysgol oherwydd y bygythiad o gau.”

Ymateb y Cyngor Sir

“Y bwriad gwreiddiol o ran y broses ymgynghori, oedd gwneud y penderfyniad ar y cynnig ym mis Mehefin 2020 ond, oherwydd ystyriaeth y Cyngor am y gweithlu, trigolion a phlant Ynys Môn, gohiriwyd hyn oherwydd y pandemig,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor Sir.

“Mae ymateb i’r argyfwng a chadw pobl Ynys Môn yn ddiogel yn parhau i fod wrth wraidd gwaith swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn o ddydd i ddydd ac o’r herwydd, cafodd nifer o brosiectau pwysig, gan gynnwys moderneiddio ysgolion, eu hatal.

“Ond m, yn enwedig gan na wyddwn am ba mor hir fydd y pandemig yn parhau.

“Mae’r Cyngor eisiau buddsoddi yn nyfodol plant a phobl ifanc Ynys Môn.

“Fel rhan o’r rhaglen hon, rhaid i’r Cyngor sicrhau fod plant yn derbyn eu haddysg mewn adeiladau sy’n addas ar gyfer y 21ain Ganrif, adeiladau sydd yn y lle iawn, sy’n bodloni anghenion disgyblion a staff, sy’n helpu i hyrwyddo safonau uchel ac sy’n amddiffyn yr Iaith Gymraeg.

“Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi arweiniad i awdurdodau lleol o ran ymgynghori ar gynigion yn ystod y cyfnod clo. Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cadw at y canllawiau hyn.

“Cydnabyddir ei bod hi’n anodd cwrdd i drafod unrhyw fater wyneb i wyneb ond mae hyn yn wir i bawb. Mae’r Cyngor a nifer o sefydliadau wedi goresgyn y broblem yma drwy gynnal cyfarfodydd rhithiol. Mae’r Cyngor yn deall rhwystredigaeth rhanddeiliaid oherwydd y sefyllfa efo’r pandemig.

“Er hynny, roedd nifer y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i’r cynnig (yn ystod cyfnod clo), yn uwch na’r nifer a dderbyniwyd yn y gorffennol.

“Yn ogystal, derbyniwyd fwy o ymatebion i’r ymgynghoriad yn 2020 nac yn 2018.

“Gellir dadlau felly bod mwy o ymatebion a gwrthwynebiadau wedi eu derbyn yng nghanol cyfnod clo nac yn y cyfnod cyn y pandemig.

“Yn ogystal, cydnabyddir bod colli addysg yn niweidiol i ddatblygiad gwybyddol ac academaidd plant a phobl ifanc ac mae bod yn yr ysgol yn hanfodol i addysg a lles plant a phobl ifanc.

“Er mwyn helpu lleddfu straen i ddisgyblion yn ystod cyfnod y pandemig, mae’r Awdurdod mewn cydweithrediad efo’r ysgolion, wedi sicrhau bod lleoliadau addysg a gofal plant yn parhau i weithredu gyda chyn lleied o darfu ȃ phosibl yn ystod brigiad o achosion o COVID-19.

“Mae sicrhau lles a llesiant pawb wedi bod yn flaenoriaeth, yn enwedig y plant ifanc, gydag ysgolion yn ymgysylltu gyda dysgwyr ac yn cefnogi ble’n briodol.

“Yn ystod cyfnodau clo, bu i’r Awdurdod, mewn cydweithrediad ȃ’r ysgolion, barhau i gynnig darpariaeth addysg mewn ysgolion i blant sy’n agored i niwed er mwyn diogelu eu lles, ac i blant gweithwyr hanfodol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn gallu parhau i weithredu.

“Mae’r Cyngor o ganlyniad yn credu ei fod wedi bod yn ystyrlon a sensitif yn y ffordd mae wedi ymdrin ȃ’r cyfnod clo ac wedi rhoi cyfle ac amser digonol  i randdeiliaid i ymateb er gwaetha’r sefyllfa o ran y pandemig COVID-19.”

Logo Cyngor Ynys Môn

Y broses o foderneiddio ysgolion yn ailddechrau ar Ynys Môn

Daw hyn yn dilyn oedi o saith mis yn sgil pandemig y coronafeirws