Mae arbenigwr ym maes gwyddorau iechyd gofal sylfaenol yn rhybuddio y dylai rhedwyr wisgo masgiau wrth redeg heibio i bobol eraill rhag iddyn nhw drosglwyddo Covid-19.

Dywed yr Athro Trish Greenhalgh o Brifysgol Rhydychen fod modd trosglwyddo’r feirws wrth anadlu yn ymyl rhywun arall, a bod rhedwyr yn fwy tebygol na’r rhan fwyaf o bobol o anadlu’n drwm.

“Does dim amheuaeth fod y feirws yn yr awyr, does dim amheuaeth y gallwch chi ei ddal os ydych chi’n anadlu i mewn a bod rhywun arall wedi anadlu allan,” meddai wrth raglen Good Morning Britain.

“Mae 40% o achosion Covid yn digwydd o’i ddal gan rywun sydd heb symptomau – felly rydych chi’n loncian ac yn meddwl eich bod chi’n iawn ac yna, y diwrnod canlynol, rydych chi’n datblygu symptomau Covid, ond rydych chi wedi anadlu’r Covid hwnnw, mewn gwirionedd, dros rywun rydych chi’n ei adnabod, hen ddynes yn mynd â’i chi am dro neu rywbeth felly.

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan yr Athro Devi Sridhar o Brifysgol Caeredin.

Dywed y dylai pobol wisgo masgiau mewn ardaloedd prysur ond y gall pobol “dynnu eu masgiau a rhedeg yn rhydd” mewn llefydd mwy tawel.