Mae ymgyrchwyr yn galw am gadw Capel Mawr ym Mhorthaethwy, sydd ar werth ar hyn o bryd, a’i droi’n ganolfan gymunedol.

Mae’r grŵp yn cwyno am “or-ddatblygu” yn y dref, ac yn poeni y gallai’r capel gael ei droi’n fflatiau.

Cafodd y capel ei adeiladu’n wreiddiol yn 1838 a’i adnewyddu ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf.

Mae wedi ei restru gyda Cadw ond mae pydredd sych wedi bod yn broblem yno ers yr 1970au, gyda’r gwasanaethau bellach wedi eu symud i’r addoldy dros y ffordd.

Bellach, mae deiseb wedi ei chreu gyda’r gobaith o achub y capel.

Dywed Lowri Hedd Vaughan, un o’r ymgyrchwyr y tu ôl i’r ddeiseb, ei bod hi’n poeni y gallai’r capel “fynd i’r dwylo anghywir” pe bai’n cael ei werthi.

“Mae’r ochr yna o Borthaethwy ’di cael ei foneddigeiddio eitha’ lot dros y blynyddoedd diweddar a hefyd rydan ni’n gweld cyfle i ddatblygu canolfan gymunedol,” meddai wrth raglen ‘Dros Frecwast’ ar Radio Cymru.

“‘Swn i’n licio gweld lot mwy o gefnogaeth i unigolion sy’ dan anfantais, i bobol sy’n unig, i rieni ifanc i’r henoed – creu gofod eitha’ penagored.

“Mae rhai o’r syniadau cychwynnol sydd ganddon ni, rhywfaint o ysbrydoliaeth o’r hyn fasa’n gallu bod, yn dod o lefydd fel Neuadd Ogwen ym Methesda a Cell B ym Mlaenau Ffestiniog – y cyfleoedd maen nhw’n rhoi i bobol o bob oed a bod y celfyddydau’n weddol flaenllaw yno.

“Rydan ni’n sylweddoli bod angen dipyn o arian ond ’dan ni’n ffodus o ran aelodaeth y grŵp.

“Mae ganddon ni unigolion sy’n brofiadol iawn, wedi ceisio a llwyddo i ennill grantiau ar gyfer mudiadau.

“Mae ganddon ni ryw chwe wythnos i drio mireinio’r cynlluniau.

“Mae’n dasg fawr, ond dim yn amhosib o gwbl.”