Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr wedi cyhoeddi eu bod yn ymestyn ymgynghoriadau ar bedair ysgol yn y Sir tan Orffennaf 16.

Dywed y Cyngor fod hyn er mwyn i bawb allu “dweud eu dweud”.

Dylai’r ymgynghoriadau ar Ysgol Mynydd-y-Garreg ac Ysgol Gwenllian, Ysgol Blaenau ac Ysgol Llandybie, Ysgol Gynradd Dyffryn y Swistir ac Ysgol Rhyd-y-gors fod wedi dod i ben ar Chwefror 21.

Bydd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr ymgynghori ar y canlynol:

  • Cynnig i adolygu’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardaloedd Mynydd-y-garreg a Gwenllian
  • Cynnig i newid ystod oedran Ysgol Dyffryn y Swistir o 4-11 i 3-11.
  • Cynnig i adolygu’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardaloedd Blaenau a Llandybïe
  • Cynnig i ad-drefnu ac ailfodelu’r gwasanaethau cymorth ymddygiad yn Ysgol Rhyd-y-gors er mwyn gwella’r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobol ifanc
  • Cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Felin

“Mae’n rhaid i ni gofio nad yw’r cyfyngiadau a roddwyd ar waith mewn ymateb i bandemig y coronafeirws yn golygu nad yw cynigion statudol ar gyfer ad-drefnu ysgolion yn gallu mynd rhagddynt,” meddai’r Cynghorydd Glynog Davies, sy’n gyfrifol am Addysg a Gwasanaethau Plant y Cyngor.

“Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol ystyried goblygiadau’r cyfyngiadau hynny a chymryd pob cam posibl i sicrhau bod ymgyngoriadau’n deg ac yn gynhwysol gan gydnabod yr amgylchiadau unigryw y maent yn digwydd ynddynt yn ystod pandemig y coronafeirws.

“Cyhoeddwyd y canllawiau anstatudol gan Lywodraeth Cymru ddau ddiwrnod ar ôl i ni basio’r Rhybudd o Gynnig yn y cyngor llawn.

“Maent yn dweud lle y bo’n bosibl y dylem ystyried a ddylid gohirio ymgynghoriadau neu ymestyn yr amserlen i ganiatáu i gynifer o bobl â phosibl ddweud eu dweud.

“Er nad yw’n ofynnol i ni gynnal cyfarfodydd ymgynghori, mae’r côd hefyd yn cydnabod y gall y rhain fod yn ddefnyddiol iawn i rannu gwybodaeth ac i bobl fynegi eu barn.”

Cymdeithas yr Iaith yn galw am “sicrwydd”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Gyngor Sir Gâr i roi “sicrwydd” i ysgolion y sir sy’n mynd drwy ymgynghoriad cyhoeddus.

“Yn ystod y cyfnod chwe wythnos o ymgynghori fe wnaeth llywodraethwyr a rhieni Mynydd-y-Garreg frwydro yn erbyn yr ods i lunio Cynllun Busnes blaengar a thrylwyr ar gyfer dyfodol yr ysgol,” meddai Ffred Ffransis ar ran Rhanbarth Caerfyrddin o’r Gymdeithas.

“Er mwyn sicrhau nad gwastraff amser fydd y pedwar mis nesaf, gofynnwn i’r Cyngor – yn aelodau etholedig yn ogystal â swyddogion – i ddefnyddio’r amser, fel arwydd o ewyllys da ac o werthfawrogiad o waith y llywodraethwyr, i drafod y Cynllun yn fanwl gyda nhw fel eu bod yn gallu rhoi iddynt sicrwydd am eu dyfodol.

“Mae hefyd amser digonol i symud ymlaen at ffurfio ffederasiwn rhwng Ysgolion Mynydd-y-Garreg a Gwenllian gan nad oes angen yr un broses gyfreithiol i sefydlu ffederasiwn o’r fath.

“I bob pwrpas, mae cynnig gwreiddiol y Cyngor, o ran cau’r ysgol, wedi syrthio gan y byddai angen amserlen cwbl wahanol i’r hyn sydd yn y ddogfen ymgynghorol.

“Daeth cyfle felly am drafod cadarnhaol a sail lewyrchus i addysg Gymraeg yn yr ardal yn ysgolion Gwenllian a Mynydd-y-Garreg.

“Dylid defnyddio’r cyfamser hefyd i sicrhau fod y cais am yr adeiladau newydd yn barod fel na bob oedi pellach i Ysgol Gwenllian chwaith.”

Ymestyn cyfnod ymgynghori ar gyfer pedwar o wahanol gynigion ysgolion

Dylai’r ymgyngoriadau fod wedi dod i ben ddoe (dydd Sul, Chwefror 21)

Dechrau ymgynghoriad i ddyfodol Ysgol Mynydd-y-Garreg

Y penderfyniad i gynnal yr ymgynghoriad tra bod yr ysgol ar gau oherwydd y pandemig yn un “arbennig o greulon” meddai Cymdeithas yr Iaith