Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu manylion Cyllideb y Canghellor.
Mae disgwyl i Rishi Sunak gyhoeddi ddydd Mercher (Mawrth 3) y bydd busnesau Cymru yn derbyn mwy na £93m ac y bydd y buddsoddiad yn creu bron i 13,000 o swyddi.
Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, “mae creu swyddi ac adfer o’r pandemig wrth wraidd cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig”.
Fe ddaw’r cyhoeddiad wedi i Lywodraeth Cymru glustnodi £682m ychwanegol i gynorthwyo’r gwasanaethau cyhoeddus drwy’r pandemig.
Bydd Rebecca Evans, yr Ysgrifennydd Cyllid, yn cyhoeddi cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 2).
O Gaergybi i Bort Talbot
“Mae’r wlad gyfan wedi ei tharo yn wael gan y pandemig, ond bydd cyllideb a buddsoddiad y Canghellor o ryw £93m yn helpu i greu swyddi a thwf economaidd o Gaergybi i Bort Talbot wrth i ni geisio bownsio’n ôl,” meddai Andrew RT Davies.
Fel rhan o’r Gyllideb, mae disgwyl i Ganolfan Hydrogen newydd yng Nghaergybi dderbyn £4.8m.
Mae disgwyl hefyd y bydd cyllid o £58.7m ar gael yn gyflymach dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Bargen Twf Gogledd Cymru a Bargen Twf Canolbarth Cymru, ac y bydd Castell-nedd Port Talbot yn elwa o hyd at £30m o gyllid ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang.
Mae disgwyl y bydd yr holl gynlluniau yma yn creu bron i 13,000 o swyddi.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ceisio diogelu swyddi dro ar ôl tro yn ystod un o’r cyfnodau anoddaf a welodd ein gwlad erioed, ac mae wedi dangos y gorau o Brydain sydd yn cydweithio er lles y bobol,” meddai Andrew RT Davies wedyn.
“Rydym bellach yn edrych ymlaen yn optimistaidd at adferiad a arweinir gan fuddsoddiad wrth i ni geisio ailadeiladu Cymru a’r Deyrnas Unedig gyfan.”
Bydd y Canghellor yn amlinellu cyflwr economi’r Deyrnas Unedig a manylion llawn y Gyllideb yfory (dydd Mercher, Mawrth 3).