Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o anwybyddu’r diwydiannau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth.

Daw hyn ar ôl i’r prif weinidog Mark Drakeford gyhoeddi y bydd £682m ychwanegol ar gael i ymateb i’r pandemig yng Nghymru.

“Mae hyn yn cynnwys mwy na £635m i’r Gwasanaeth Iechyd a’n hawdurdodau lleol i’w helpu i barhau i’n helpu ni dros y chwe mis nesaf,” meddai’r Prif Weinidog.

“Bydd y pecyn sylweddol o fuddsoddiad yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yn helpu i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol mewn cyfnod anodd tu hwnt, nes daw’r argyfwng hwn i ben.”

Ond yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, dydy’r cyhoeddiad ddim yn rhoi digon o sylw i’r diwydiannau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth.

“Rydym wedi bod yn galw ar weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd i ddefnyddio’r bron £6bn a ddarparwyd gan y Ceidwadwyr mewn cyllid Covid i gefnogi teuluoedd, gweithwyr a busnesau Cymru, felly mae’r cyhoeddiad hwn yn well hwyr na hwyrach.

“Fodd bynnag, mae busnesau Cymru – yn enwedig yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth – yn parhau i gael eu hanwybyddu ac mae’n rhaid i weinidogion Llafur ymestyn y gwyliau ardrethi busnes i’r flwyddyn nesaf fel y gallwn gefnogi swyddi yng Nghymru.”

“Dim sail i’r honiadau bod Llywodraeth Cymru wedi cadw cyllid yn ôl”

“Nid oes sail i’r honiad bod Llywodraeth Cymru yn cadw cyllid yn ôl,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae’n cyllideb ddiweddaraf yn tystio i’r ffaith ein bod wedi neilltuo 99.6% o’r holl adnoddau sydd ar gael i ni ar gyfer eleni ac mae rhagor o waith yn parhau i fynd rhagddo.

“Ein pecyn o gymorth i fusnesau yw’r pecyn mwyaf hael o gymorth sydd ar gael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ac rydym wedi darparu mwy o gyllid i fusnesau yma na’r hyn yr ydym wedi’i dderbyn yn sgil y gwariant ar gymorth i fusnesau yn Lloegr.”