Fydd y Gyllideb Derfynol “ddim ond yn mynd â ni’n ôl i’r un hen drefn” o dan Lywodraeth Lafur Cymru, yn ôl Mark Isherwood, llefarydd Cyllid y Ceidwadwyr Cymreig.
Daw ei sylwadau ar ôl i fanylion Cyllideb Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 2), ar drothwy cyhoeddi Cyllideb Canghellor San Steffan yfory (dydd Mercher, Mawrth 3).
“Mae’r pandemig wedi dinistrio economi Cymru ac mae pobol a busnesau’n galw allan am ragor o gefnogaeth gan weinidogion Llafur fel y gallwn gefnogi teuluoedd ac achub swyddi Cymreig ond yn drist iawn, mae’r galwadau hynny wedi cael eu hanwybyddu.
“Ar ôl dros ddau ddegawd mewn grym a sawl Cyllideb, mae Llywodraethau Llafur olynol ym Mae Caerdydd wedi methu â gweithredu ar ran pobol sy’n gweithio’n galed ac yn drist iawn, does fawr o reswm i gredu y bydd y Gyllideb hon yn wahanol – fydd hi ond yn mynd â ni’n ôl i’r un hen drefn o dan Lafur.
“Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun i gyflwyno isadeiledd gwell o lawer, mwy o swyddi, gwell ysbytai ac ysgolion o’r radd flaenaf – a’r cyfan oll yn hanfodol yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod wrth i ni ailadeiladu Cymru.”