Gyda phandemig Covid-19 yn parhau, mae dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru a Gool Peran, diwrnod nawddsant Cernyw, yn edrych yn wahanol iawn eleni.
Ond mae BBC Cymru a BBC Cernyw yn hybu ffordd syml o ddathlu’r nawddseintiau a dechrau’r gwanwyn yn ystod y cyfnod clo, gyda chyfres o luniau sy’n gallu cael eu lawrlwytho a’u gosod mewn ffenestri.
Fe fu Radio Wales yn annog pobol i lawrlwytho llun o genhinen bedr o’u gwefan – naill ai un sydd wedi’i liwio eisoes, neu amlinelliad y gall plant eu lliwio eu hunain.
Dywed yr orsaf eu bod nhw’n “symbol o obaith, dechreuadau newydd a’r Gwanwyn”.
Paul Cummins, dylunydd arddangosfi pabi Llundain, sydd wedi dylunio’r genhinen bedr.
Ac ar drothwy Gool Peran ddydd Gwener (Mawrth 5), mae BBC Cernyw yn rhedeg ymgyrch debyg gyda baner Cernyw.
Mae gwefan Visit Truro hefyd wedi creu pecyn adnoddau i blant gael dathlu Gool Piran, a hwnnw’n cynnwys mygydau anifeiliaid yn barod ar gyfer te parti rhithiol ac ambell air o Gernyweg.
Yn ystod y dydd, fe fydd pregeth am ganol dydd yn cynnwys caneuon ar YouTube gan Gôr Eglwys Gadeiriol Truro, te parti i blant am 12.30yp, ffilm Gool Peran ar Facebook am 1 o’r gloch, cyfle i ddod ynghyd i lafarganu Oggy Oggy Oggy y tu allan i gartrefi am 6 o’r gloch a Chôr Meibion Truro yn cymryd rhan mewn ‘Trelawny Shout’ am 9 o’r gloch.