Mae Recep Tayyip Erdogan, Arlywydd Twrci, wedi cyhoeddi cyfres o ddiwygiadau er mwyn gwella hawliau dynol yn y wlad, ond mae beirniaid yn amau pa mor effeithiol fydd y mesurau.

Mae’r arlywydd dadleuol wedi addo cyflymu achosion llys, gwella rhyddid y wasg a rhyddid barn, rhoi’r hawl i leiafrifoedd gymryd gwyliau â thâl yn ystod gwyliau nad ydyn nhw’n wyliau Mwslimaidd, lleihau trais yn erbyn menywod a sicrhau bod y rhai sy’n cynnal y gyfraith wedi’u hyfforddi mewn hawliau dynol.

Mae e’n dweud y bydd e’n cyflwyno cannoedd o fesurau dros y ddwy flynedd nesaf, gan ychwanegu mai’r nod yn y pen draw fydd llunio cyfansoddiad newydd.

Ond mae beirniaid yn honni mai atgyfnerthu ei swydd ei hun fydd nod y cyfansoddiad hwnnw.

Llai o hawliau

Mae hawliau dynol wedi gwanha ers i’r arlywydd ddod i rym bron i ddau ddegawd yn ôl.

Mae ymgyrchwyr hawliau dynol yn poeni’n benodol am achosion llys teg, yr hawl i ymgynnull yn heddychlon a rhyddid barn.

Mae miloedd o wrthwynebwyr y llywodraeth wedi’u carcharu neu eu herlyn, a’r rheiny’n cynnwys newyddiadurwyr, gwleidyddion ac ymgyrchwyr, gan ddweud bod eu cosbau’n llym.

“Mater o fynd i’r afael â beirniadaeth ac atgyfnerthu grym” yw’r mesurau, yn ôl Howard Eissenstat, arbenigwr ar faterion Twrci yn Efrog Newydd, sy’n dweud mai ychydig iawn o eglurder sydd i’r mesurau.

Daw’r mesurau ar adeg pan fo Twrci’n ceisio trwsio perthnasau tramor mewn ymgais i wella’u sefyllfa economaidd fregus.

Mae gweinyddiaeth Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, eisoes wedi beirniadu record Twrci o ran hawliau dynol, gan alw am adael yr ymgyrchydd Osman Kavala yn rhydd o’r carchar, ac yntau dan glo ers 2017.

Mae Twrci hefyd yn wynebu sancsiynau posib o ganlyniad i’w hymdrechion i chwilio am ynni yn y Môr Canoldir – rhywbeth mae Groeg a Chiprys yn ei wrthwynebu.

Mae beirniaid am weld Osman Kavala a Selahattin Demirtas, gwleidydd yr wrthblaid, yn gadael y carchar fel arwydd fod yr arlywydd yn ddiffuant yn ei fwriad i ddiwygio’r wlad.

Y llynedd, fe wnaeth yr arlywydd gyhuddo Llys Hawliau Dynol Ewrop o “amddiffyn brawychwr” am iddyn nhw alw am ryddhau Demirtas o’r carchar.

Mae Twrci hefyd wedi anwybyddu Gorchymyn Llys i ryddhau Kavala, sydd wedi’i gyhuddo o fod â rhan mewn protestiadau yn erbyn y llywodraeth yn 2013 ac ymgais i orchfygu’r llywodraeth yn 2016.