Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cyllideb Derfynol heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 2), gyda’r ffocws ar wasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru.

Dywed Rebecca Evans, yr Ysgrifennydd Cyllid, y bydd y Llywodraeth y parhau i ddarparu cymorth er mwyn diogelu bywydau a bywoliaethau yn y misoedd i ddod.

Bydd y Gyllideb yn rhoi hwb o £224.5m o gyllid cyfalaf i gefnogi ymdrechion ail-greu ac i ysgogi swyddi a’r galw am swyddi.

Daw hyn yn dilyn pecyn ail-greu gwerth £320m a gafodd ei gyhoeddi fis Hydref diwethaf.

Mae’r buddsoddiad yn cynnwys £147m ychwanegol i gynyddu rhaglenni tai a £30m yn ychwanegol i gyflymu Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r unfed ganrif ar hugain.

Bydd £8m yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i helpu’r awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru i atgyweirio’r difrod a gafodd ei achosi gan y llifogydd ym mis Rhagfyr a mis Ionawr.

Fel y cyhoeddodd y prif weinidog ddoe (dydd Llun, Mawrth 2), mae’r Gyllideb Derfynol hefyd yn cadarnhau mwy na £630m i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a llywodraeth leol dros y chwe mis nesaf wrth iddyn nhw barhau i ymateb i’r pandemig.

Mae’r Gyllideb Derfynol hefyd yn neilltuo £200m mewn cronfeydd wrth gefn er mwyn gallu darparu cefnogaeth ychwanegol i fusnesau wrth i bandemig y coronafeirws barhau.

“Sicrhau adferiad”

“Mae’r Gyllideb yr wyf wedi’i chyhoeddi heddiw yn fuddsoddiad yn ein heconomi i helpu i roi hwb i  swyddi a’r galw am swyddi gan sicrhau adferiad sy’n dechrau ymwreiddio heddiw,” meddai Rebecca Evans.

“Mae hefyd yn rhoi’r sicrwydd y mae ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a llywodraeth leol ei angen i ymateb i gam nesaf y pandemig.

“Rydyn ni’n gwybod bod angen sicrwydd ar ein busnesau sydd wedi dioddef waethaf hefyd.

“Dyna pam y gwnaethom aildrefnu cyllidebau i ddarparu mwy o gyllid ar gyfer cymorth i fusnesau yng Nghymru nag a gawsom fel cyfran o’r pecyn yn Lloegr.

“Byddwn yn rhoi eglurder pellach pan fydd ein sefyllfa ariannu wedi’i gwarantu’n llwyr.

“Pan fydd y Canghellor yn cadarnhau’r cyllid y bydd Cymru’n ei gael fel ei chyfran o safiad Lloegr ar ryddhad ardrethi ar gyfer y flwyddyn nesaf, byddaf yn cyhoeddi’r camau nesaf i Gymru.

“Mae’r mesurau heddiw yn adeiladu ar gyllideb sydd wedi’i chynllunio i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a’n heconomi, i adeiladu dyfodol gwyrddach ac i greu newid ar gyfer Cymru fwy cyfartal.”