Mae Plaid Cymru yn dweud nad yw’r ymrwymiad yng Nghyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i adferiad gwyrdd “unman yn agos at lefel yr uchelgais sydd ei hangen”.
Mae’r Llywodraeth yn dweud y bydd y Canghellor yn cyhoeddi £93m i Gymru ar gyfer adferiad gwyrdd yn ei Gyllideb ddydd Mercher (Mawrth 3).
Fodd bynnag, mae £58.7m o’r arian hwn eisoes wedi cael ei gyhoeddi, yn ôl Plaid Cymru, a dydy hi ddim yn glir faint o’r £34.3m sy’n weddill fydd yn gyllid newydd chwaith.
Dywed Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, fod yn rhaid cynyddu pwerau benthyca Cymru fel y gall y wlad “ymgymryd ag ysgogiad seilwaith carbon isel”.
Ar hyn o bryd, gall Llywodraeth Cymru fenthyg £150m y flwyddyn ar gyfer seilwaith, hyd at derfyn o £1bn.
Fis diwethaf, cyhoeddodd Plaid Cymru gynlluniau ar gyfer ysgogiad seilwaith carbon isel brys, yn ôl argymhelliad TUC Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Byddai’r rhaglen fuddsoddi’n werth £6bn wrth gefnogi adferiad economaidd Cymru ar ôl argyfwng Covid-19, gan greu bron i 60,000 o swyddi yn y tymor cyntaf, yn ôl y Blaid.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sôn am fuddsoddi mewn adferiad gwyrdd, ond nid yw hyn unman yn agos at lefel yr uchelgais sydd ei angen i gwrdd â’r argyfwng economaidd ac amgylcheddol sy’n ein hwynebu,” meddai Ben Lake.
“Yr hyn sydd ei angen arnom yw ymrwymiad i gynyddu cap benthyca Llywodraeth Cymru fel y gall Cymru ymgymryd ag ysgogiad seilwaith carbon isel.
“Mae’n rhaid i hynny gynnwys ôl-ffitio mwy na chant o filoedd o gartrefi, ehangu a thrydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd, a darparu cysylltiad band eang Gigabit ledled Cymru.”