Mae Propel Cymru, sef plaid Neil McEvoy, wedi enwi pedwar ymgeisydd ar gyfer ardal Gorllewin De Cymru yn etholiad y Senedd ar Fai 6.
Y prif ymgeisydd yw’r Cynghorydd Tim Thomas, cadeirydd Propel Cymru ac Arweinydd y Grŵp ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dr Gail John sydd yn ail ar y rhestr, gyda James Henton, myfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Gastell-nedd, yn drydydd, a’r ymgyrchydd cymunedol Lee Fenton yn bedwerydd.
Mae’r Cynghorydd Tim Thomas yn cynrychioli ward Ynysawdre yn etholaeth Aberogwr.
Mae’n gweithio fel Swyddog Polisi Tai ac fe fu gynt yn gadeirydd yr ymgyrch drawsbleidiol ‘Yes for Further Law-making Powers’ yn etholaethau Aberogwr a Phen-y-bont ar Ogwr.
‘Sefyll i roi ein cymunedau yn gyntaf’
“Rwyf wrth fy modd fod aelodau wedi dangos eu hyder ynof gan faes mor gryf o ymgeiswyr,” meddai Tim Thomas.
“Mae gennym dîm ymgyrchu unedig o bob rhan o’r rhanbarth, gyda sgiliau unigryw ac amrywiol.
“Mae Cymru angen hyrwyddwyr sydd ddim yn gwneud gwleidyddiaeth fel arfer.
“Rydym yn sefyll i roi ein cymunedau yn gyntaf.”
Blaenoriaethau
Dywedodd Tim Thomas y bydd y blaid yn blaenoriaethu cyfiawnder tai, annibyniaeth ynni Cymru a “sicrhau democratiaeth uniongyrchol fodern” yn eu hymgyrch etholiadol.
Bydd atebolrwydd am wasanaethau cyhoeddus a rhoi terfyn ar gyfyngiadau symud Cymru hefyd wrth wraidd maniffesto’r blaid.
“Rydyn ni i gyd yn gyffrous iawn am yr etholiad a’r cyfle i ddod â newid mawr ei angen i Gymru,” meddai.