Mae John Swinney, dirprwy brif weinidog yr Alban, wedi cydnabod fod “amheuon” gan gyfreithwyr y llywodraeth ynglŷn â’r ffordd yr aethon nhw ati i ymchwilio i honiadau am y cyn-brif weinidog Alex Salmond.
Mae Swinney wedi cytuno i drosglwyddo cyngor cyfreithiol yn dilyn bygythiad o bleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn.
Ond mae’n honni bod “sail polisi cyhoeddus da” i beidio â derbyn adolygiad barnwrol tan yr wythnos cyn yr achos llys.
Dywedodd wrth ymchwiliad Holyrood nad oedd “unrhyw ddogfennau” sy’n cefnogi cyhuddiad y cyn-brif weinidog bod y Llywodraeth wedi gohirio’r achos yn fwriadol yn y gobaith y byddai achos troseddol yn “goddiweddyd” yr adolygiad barnwrol.
Lansiodd Llywodraeth yr Alban ymchwiliad i honiadau o aflonyddu rhywiol gan y cyn-brif weinidog yn 2018, ond daethpwyd i’r casgliad bod yr ymchwiliad yn anghyfreithlon ac yn annheg oherwydd cyswllt blaenorol rhwng y swyddog ymchwilio a dwy o’r menywod oedd wedi gwneud yr honiadau.
Honnodd cyfreithwyr Llywodraeth yr Alban na ddaethon nhw i wybod am y cyswllt tan fis Hydref 2018, naw mis ar ôl i’r ymchwiliad ddechrau.
Wnaeth Llywodraeth yr Alban ddim ildio’r achos tan Ionawr 8, 2019 – wythnos cyn i’r adolygiad llawn ddechrau.
Hawliodd Alex Salmond iawndal cyfreithiol o £512,250 oherwydd y cyfaddefiad hwyr, ac mae wedi honni bod y llywodraeth wedi gobeithio y byddai’r achos troseddol ar y gorwel yn “achub y dydd” ac yn atal yr ymchwiliad anghyfreithlon rhag cael ei threchu.
Fis Tachwedd y llynedd, pasiodd Senedd yr Alban gynigion yn mynnu bod y llywodraeth yn cyhoeddi’r holl gyngor cyfreithiol.
Ond ar ôl i gynnig o ddiffyg hyder gael ei gyflwyno ddoe (dydd Llun, Mawrth 1) yn erbyn John Swinney am wrthod cydymffurfio ag ewyllys y Senedd, cytunodd i drosglwyddo’r cyngor cyfreithiol “allweddol” i ymchwiliad Holyrood.
Mynnodd fod “dadleuon polisi cyhoeddus da a rhesymeg resymol i’r Llywodraeth barhau i amddiffyn yr adolygiad barnwrol a cheisio cael penderfyniad gan y Llys ar y materion a godwyd, am ddigwyddiadau diwedd Rhagfyr 2018”.
Bryd hynny, cafodd comisiwn llys sifil preifat ei gynnal cyn y gwrandawiad llys fel rhan o ymdrechion tîm cyfreithiol Alex Salmond i orfodi’r llywodraeth i drosglwyddo tystiolaeth.
‘Dim cefnogaeth’ i honiadau Salmond, medd Swinney
“Yn ystod ei sesiwn dystiolaeth gyda’r Pwyllgor ddydd Gwener, fe wnaeth Mr Salmond hefyd godi honiad bod awydd o fewn y Llywodraeth i geisio oedi’r adolygiad barnwrol unwaith y byddai mater cyswllt ymlaen llaw gyda’r achwynwyr wedi’i nodi,” meddai John Swinney.
“Rwyf wedi gofyn i swyddogion adolygu’r dogfennau perthnasol, ond nid ydynt wedi nodi unrhyw ddogfennau sy’n cefnogi’r honiad hwn.”
Awgrymodd John Swinney, sy’n arwain ymateb y llywodraeth i’r pwyllgor ar ôl i’r prif weinidog Nicola Sturgeon egusodi ei hun, ei fod yn cytuno i gyhoeddi’r cyngor cyfreithiol oherwydd pryderon y gallai’r honiadau “effeithio’n negyddol ar hyder y cyhoedd yn y Senedd, y Llywodraeth a hyd yn oed ein sefydliadau cyfiawnder”.
Bydd y cyngor cyfreithiol yn cael ei roi i’r pwyllgor ar ôl iddyn nhw holi James Wolffe, pennaeth Swyddfa’r Goron a phrif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth yr Alban, heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 2).
Mae James Wolffe wedi wfftio beirniadaeth o Swyddfa’r Goron.