Fe fydd Ceidwadwyr yr Alban yn arwain pleidlais o ddiffyg hyder yn John Swinney, dirprwy brif weinidog yr Alban, yr wythnos hon am ei ran yn helynt Alex Salmond.

Fe ddaw ar ôl i gyngor cyfreithiol gael ei gyhoeddi.

Ar ddau achlysur, mae Aelodau o Senedd yr Alban wedi galw ar Lywodraeth yr Alban i gyflwyno’r cyngor cyfreithiol a gafwyd fel rhan o her gyfreithiol Alex Salmond ynghylch prosesau’r Llywodraeth ar gyfer cwyno am aflonyddwch.

Ond hyd yn hyn, dydy gweinidogion y llywodraeth ddim wedi trosglwyddo’r cyngor.

Mae Llywodraeth yr Alban bellach wedi derbyn yr her gyfreithiol, wrth i’r barnwr yr Arglwydd Pentland ddweud ei fod yn cynnwys “rhagfarn”.

Mewn llythyr at Linda Fabiani, sy’n gyfrifol am ddod â’r pwyllgor ynghyd i ymchwilio i gwynion yn erbyn Alex Salmond, dywedodd John Swinney ei fod yn awyddus i ddod o hyd i “ffordd ymarferol” o drosglwyddo’r cyngor i’r pwyllgor, ond dydy hynny ddim wedi digwydd eto.

Yn ôl Douglas Ross, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, bwriad y cam diweddaraf yw rhoi “un cyfle olaf” i Lywodraeth yr Alban drosglwyddo’r cyngor, ac mae’n dweud y byddai’r bleidlais o ddiffyg hyder yn cael ei dileu pe bai hynny’n digwydd.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi dweud y bydden nhw’n barod i gefnogi’r bleidlais o ddiffyg hyder, gan ategu’r rhybudd i John Swinney y dylai drosglwyddo’r cyngor a bod Llywodraeth yr Alban “wedi mynd allan o’u ffordd i darfu ar yr ymchwiliad i’w ffordd o ymdrin â rhai honiadau difrifol iawn”.

Maen nhw’n cyhuddo’r Llywodraeth o “ddirmygu ein senedd”.

Pleidlais flaenorol

Pe bai’r bleidlais yn cael ei chynnal, dyma fyddai’r ail dro i John Swinney wynebu’r fath bleidlais mewn blwyddyn.

Fis Awst y llynedd, cafodd ei feirniadu gan y gwrthbleidiau am sgandal y broses gymwysterau, ac yntau hefyd yn gyfrifol am bortffolio addysg y llywodraeth.

Roedd hyn yn sgil cau ysgolion a chanslo gwersi yn sgil Covid-19.

O dan y drefn newydd, cyfrifoldeb Awdurdod Cymwysterau’r Alban (SQA) oedd cymedroli graddau oedd wedi’u rhoi gan athrawon – proses a arweiniodd at is-raddio 124,000 o farciau ac a wahaniaethodd yn annheg yn erbyn pobol o gefndiroedd difreintiedig.

Ond fe oroesodd John Swinney y bleidlais gan iddo gael cefnogaeth Plaid Werdd yr Alban, sy’n bwriadu aros y tro hwn i glywed mwy am y sefyllfa cyn gwneud penderfyniad ynghylch eu pleidlais.

Ddiwrnod ar ôl i Anas Sarwar gael ei ethol yn arweinydd, dydy hi ddim eto’n glir beth yw safbwynt Llafur yr Alban, ond maen nhw’n galw ar Lywodraeth yr Alban i drosglwyddo’r cyngor.

Alex Salmond a Nicola Sturgeon gyda dogfennau lansio'r 'Sgwrs Genedlaethol'

Ian Blackford yn mynnu nad yw Nicola Sturgeon wedi torri’r cod gweinidogol

Ond arweinydd yr SNP yn San Steffan yn gwrthod dweud a ddylai hi gamu o’r neilltu
Alex Salmond a Nicola Sturgeon gyda dogfennau lansio'r 'Sgwrs Genedlaethol'

Alex Salmond yn cyhuddo Nicola Sturgeon o fethu ag arwain yr Alban

“Nid yw’r Alban wedi methu, mae ei harweinyddiaeth wedi methu,” meddai Alex Salmond
Nifer o bobol ifanc wrth ddesgiau

Ysgrifennydd Addysg yr Alban dan bwysau i ymddiswyddo

Gallai John Swinney wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn sgil helynt canlyniadau arholiadau