Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, yn mynnu nad yw Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, wedi torri’r cod gweinidogol, ond mae’n gwrthod dweud a ddylai hi gamu o’r neilltu.
Mae hi wedi’i chyhuddo o gamarwain Senedd yr Alban ynghylch y ffaith ei bod hi’n ymwybodol o’r honiadau am ymddygiad rhywiol ei rhagflaenydd Alex Salmond.
Mae’n dweud ei bod hi wedi dod i wybod am yr honiadau yn ystod cyfarfod ag Alex Salmond yn ei chartref fis Ebrill 2018.
Ond fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddarach ei bod hi wedi cael gwybod amdanyn nhw bedwar diwrnod cyn hynny, yn ystod cyfarfod â’i phennaeth staff Geoff Aberdein ond mae’n dweud ei bod hi wedi anghofio hynny.
Yn ystod gwrandawiad a barodd chwe awr ddoe (dydd Gwener, Chwefror 26), dywedodd Alex Salmond droeon ar ôl tyngu llw fod Nicola Sturgeon wedi torri’r cod gweinidogol ond fe wrthododd ddweud a ddylai hi gamu o’r neilltu.
Mae Nicola Sturgeon wedi cyfeirio’i hun ar gyfer ymchwiliad gan farnwr annibynnol.
Ian Blackford yn cefnogi Nicola Sturgeon
Er bod galwadau ar i Nicola Sturgeon gamu o’r neilltu, mae Ian Blackford yn cefnogi prif weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP.
“Mi wnaeth hi egluro ar sawl achlysur nad yw hi’n credu ei bod hi wedi torri’r cod gweinidogol,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.
“Dw i’n credu bod hynny’n wir hefyd, y bydd hyn yn cael ei roi o’r neilltu, ac y byddwn ni’n gallu symud ymlaen o hyn er mwyn sicrhau ein bod ni’n ymdrin â’r argyfwng Covid yn y ffordd gywir, a’n bod ni’n cael y drafodaeth honno ynghylch dyfodol yr Alban.
“Mae gen i a’m plaid hyder llwyr yn y prif weinidog i’n harwain ni tuag at gyrchfan lle y daw’r Alban yn wlad annibynnol.
“Dw i’n credu y bydd y cyhoedd yn edrych ar hyn ac yn meddwl beth ar wyneb y Ddaear sy’n digwydd – rydyn ni’n sôn am wahaniaeth bach mewn dyddiadau ar gyfer y cyfarfod cyntaf hwnnw.
“Y gwir yw na fu unrhyw gynllwyn, dydy’r prif weinidog ddim wedi ceisio camarwain unrhyw un ynghylch yr helynt yma, a bydd hynny’n cael ei ddangos yn yr wythnosau nesaf wrth i’r prif weinidog fynd gerbron y pwyllgor.”