Mae disgwyl y bydd mwy na miliwn o frechlynnau coronafeirws wedi’u rhoi yng Nghymru erbyn diwedd y dydd heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 27).

Yn ôl Dr Frank Atherton, mae mwy na 902,000 o bobol wedi cael dos cyntaf, tra bod dros 80,000 wedi cael ail ddos, a hynny’n cyfateb i ryw 2.7% o holl oedolion Cymru.

Dywedodd yn ystod cynhadledd y wasg ddoe (dydd Gwener, Chwefror 26) fod Cymru ar y blaen i wledydd eraill y Deyrnas Unedig o ran cyfran y boblogaeth sydd wedi derbyn dos cyntaf ac ail ddos.

Mae’n dweud bod brechu cynifer o bobol “yn berfformiad rhagorol ac yn garreg filltir allweddol” yn y frwydr yn erbyn y feirws.

“Mae’n stori wych o lwyddiant sy’n dod â gobaith i ni, ac yn dod â ffordd bosib allan i ni o’r argyfwng coronafeirws yr ydyn ni wedi’i wynebu dros y flwyddyn ddiwethaf,” meddai.

Mae’n dweud ei fod yn cefnogi’r cynlluniau i frechu pobol fesul oedran, er bod rhai yn galw am frechu athrawon a gweithwyr brys fel blaenoriaeth, gan mai dyma’r “dull symlaf, cyflymaf a thecaf”.

Mae’n dweud y bydd brechu fesul oedran yn dal i flaenoriaethu llawer iawn o bobol sy’n gweithio yn y meysydd dysgu a phlismona, gyda 45% o blismyn rheng flaen dros 40 oed, a 60% yn y byd addysg a gofal plant dros 40 oed hefyd.