Mae ymgyrchwyr yn ymbil ar Gyngor Caerdydd i beidio â gwerthu Parc Britannia yng Nghaerdydd er mwyn codi’r Amgueddfa Meddygaeth Filwrol.
Mae ymgyrchwyr lleol, amgylcheddol a heddychol wedi anfon dros 400 o lythyrau at Huw Tomas, arweinydd y Cyngor, a Russell Goodway, sydd â chyfrifoldeb am barciau’r brifddinas.
Mae’r ymgyrchwyr yn cyhuddo’r Cyngor o anwybyddu dymuniadau pobol leol, gan ddweud bod eu hygrededd “yn deilchion”.
Fis Rhagfyr, rhoddodd Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor ganiatâd ar gyfer amgueddfa pum llawr ym Mharc Britannia, sydd yn un o ardaloedd gwyrdd y brifddinas, gan roi rhwydd hynt i’r Cyngor werthu’r parc i’r perwyl yma.
Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae’r Cyngor “yn benderfynol” o werthu’r parc ond mae’n “anodd dod o hyd i neb y tu hwnt i Ymddiriedolaeth yr Amgueddfa a’r Cyngor ei hun sy’n ystyried y cynllun yn briodol”.
Ymhlith y grwpiau sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau mae Butetown Matters, Privilege Cafe, Reclaim Cardiff, Cyfeillion y Ddaear, Greenpeace a Chynllun Gwyrdd Newydd Caerdydd, ynghyd â Chymdeithas y Cymod.
Maen nhw’n “rhwystredig” ynghylch y “diffyg cydnabyddiaeth a phryder ynghylch dymuniadau’r gymuned”, gan gyhuddo’r Cyngor o fod yn “llawdrwm ac awtocrataidd” ac fe ddaw hyn ar ôl iddyn nhw fwrw ymlaen â chynllun i ddadfeilio caffi’r Paddle Steamer.
Mae pryderon hefyd nad yw’r Cyngor yn rhoi digon o bwyslais ar hanes pobol groenddu y brifddinas, wrth iddyn nhw fod yn galw am Amgueddfa Hanes Du i adrodd hanes Tiger Bay a’r Dociau.
Llythyr
“Mae’r diffyg ymgysylltu ynghylch y materion diweddar yn, a fydd yn cael effaith fawr ar ddyfodol pobol yn yr ardal, yn codi cwestiynau sylfaenol am ffyddlondeb y Cyngor i’w hymrwymiad,” meddai llefarydd.
Daw llythyr yr ymyrchwyr ar ôl i ddeiseb ddenu dros 5,000 o lofnodion ac mae’r ymgyrchwyr yn dweud y byddan nhw’n parhau “hyd nes bod y Cyngor yn ildio”.
Maen nhw hefyd yn poeni am sefyllfa ariannol Ymddiriedolaeth yr Amgueddfa, oedd wedi gwneud colled o ryw £300,000 yn ystod 2019-20 ac maen nhw wedi gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth sy’n dangos nad yw’r cyllid ar gael i godi adeilad newydd yr Amgueddfa a bod angen miliynau o bunnoedd yn rhagor arnyn nhw.
Mae’r ymgyrchwyr yn poeni mai’r trethdalwr fydd yn gorfod ariannu’r cynllun yn y pen draw, gyda £1m o ddyled eisoes yn dod o ganolfan Doctor Who Experience ym Mae Caerdydd.
“Mae’r posibilrwydd real iawn y bydd gofod gwyrdd agored yn cael ei ddileu yn ystod argyfwng hinsawdd gan adeilad sydd wedi’i wrtod gan nifer o ddinasoedd Prydeinig eraill, un sydd yn wynebu methu, ac a fydd yn cael effaith negyddol ar y gobeithion ar gyfer cofeb deilwng i gymunedau du Cymru, yn ogystal â rhoi militariaeth bob dydd ar lawnt y Senedd, yn adrodd cyfrolau am weledigaeth Cyngor Caerdydd ar gyfer datblygiad y ddinas.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Caerdydd am ymateb.