Fe fydd gwasanaeth angladdol y Capten Syr Tom Moore yn cael ei gynnal heddiw, gydag awyrennau milwrol yn talu teyrnged iddo yn Bedford.

Bydd yr awyren C-47 Dakota, sy’n rhan o arddangosfeydd yr Ail Ryfel Byd, yn hedfan o Swydd Lincoln.

Cafodd e anrhydedd debyg y llynedd wrth iddo fe ddathlu ei ben-blwydd yn 100 oed yn ystod y cyfnod clo.

Bydd milwyr o Gatrawd Swydd Efrog yn cludo’i arch i mewn i’r amlosgfa, ac fe fydd gosgordd filwrol yn talu teyrnged iddo fe.

Mae’r canwr Michael Buble hefyd wedi recordio fersiwn newydd o’r gân ‘Smile’ ar gyfer y gwasanaeth.

Yn ôl Ben Wallace, Ysgrifennydd Amddiffyn San Steffan, “mae ei gyfraniad a’i esiampl yn byw ynom ni i gyd” ac yntau wedi codi mwy na £32m ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd wrth gerdded o amgylch ei ardd yn ystod y cyfnod clo cyntaf y llynedd.

Bydd wyth aelod o’i deulu yn y gwasanaeth, gan gynnwys ei ferched Hannah Ingram-Moore a Lucy Teixeira, pedwar o wyrion a’i feibion yng nghyfraith.

Mae cynllun ar y gweill i blannu coed o amgylch y byd er cof amdano ac mae llyfr teyrngedau wedi cael ei agor ar y we.

Mae’r teulu’n atgoffa pobol i gadw at gyfyngiadau Covid-19 er mwyn helpu’r Gwasanaeth Iechyd.