Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi datgelu mai plismones oedd yn gweithio iddyn nhw oedd y ddynes a gafod ei lladd mewn gwrthdrawiad ar ffordd A40 ger Bancyfelin yn Sir Gaerfyrddin nos Iau (Chwefror 25).

Fe ddigwyddodd am oddeutu 6.40yh pan darodd fan yn erbyn beic Lynwen Thomas wrth iddyn nhw deithio i gyfeiriad y gorllewin.

Bu farw’r seiclwraig yn y fan a’r lle.

Cafodd y gyrrwr ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae ymchwiliad ar y gweill, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.