Anas Sarwar yw arweinydd newydd Llafur yr Alban.

Mae e wedi curo Monica Lennon yn y ras rhwng y ddau ymgeisydd i olynu Richard Leonard, a ymddiswyddodd fis diwethaf, gyda 57.6% o’r bleidlais.

Daw’r cyhoeddiad ddeg wythnos yn unig cyn etholiadau Holyrood.

Fe fu’r ddau ymgeisydd yn ymgyrchu tros newid y blaid, ac maen nhw’n wynebu cryn frwydr yn erbyn annibyniaeth i’r Alban, gyda’r ddau yn dweud eu bod nhw o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

Ond roedd Monica Lennon yn barod i gydnabod y byddai’n rhaid ymateb pe bai mwyafrif o Aelodau Seneddol yr Alban ar ôl mis Mai o blaid annibyniaeth.

Yn y cyfamser, fe fu Anas Sarwar yn galw ar bobol o blaid annibyniaeth i roi’r mater i’r naill ochr er mwyn canolbwyntio ar adferiad coronafeirws y wlad.

Yn ôl polau diweddar, mae’r Blaid Lafur yn drydydd ar hyn o bryd y tu ôl i’r SNP a’r Ceidwadwyr.

Torri tir newydd fel Mwslim

Anas Sarwar yw’r Mwslim cyntaf i arwain un o bleidiau gwleidyddol gwledydd Prydain.

Ond nid fe yw’r aelod cyntaf o’i deulu i dorri tir newydd.

Cafodd ei dad Mohammed ei ethol yn Aelod Seneddol Canol Glasgow yn 1997, y Mwslim cyntaf i’w ethol yn aelod seneddol yn yr Alban.

Maes o law, fe aeth yn ei flaen i fod yn llywodraethwr rhanbarth y Punjab ym Mhacistan.