Mae colofn gan y newyddiadurwraig Anna Nicholas yn y Majorca Daily Bulletin sy’n trafod helynt pennaeth cyfathrebu Iceland a’i sylwadau am y Gymraeg yn gofyn “ydy’r Cymry’n rhyfedd?”

Cafodd Keith Hann ei ddiswyddo’n ddiweddar am ladd ar y Gymraeg ar Twitter, gan ddweud ei bod yn iaith farw.

Ond yn ei cholofn, mae Anna Nicholas yn cyhuddo’r Cymry o “cancel culture“, sef yr arfer o droi cefn ar rywun a’u hwfftio am eu barn.

“Chafodd e mo’r cyfle i syrthio ar ei fai ac i ymddiheuro,” meddai wedyn.

“Dyma’r Cancel Culture llym a ffiaidd ar waith. I ffwrdd â’i ben.

“Dydy e ddim yn rhannu ein barn ni. Chip Chop.”

Ond mae’r erthygl yn mynd yn ei blaen wedyn i ladd ar gymeriad y Cymry’n ehangach.

“Ydy’r Cymry’n rhyfedd?” yw ei chwestiwn nesaf.

“Flynyddoedd yn ôl, fe wnes i gyflogi cynorthwyydd o Gymru yn yr adran Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata ro’n i’n ei rheoli.

“Roedd fy mos yn gandryll.

“O Dduw, fe wnaeth e lefain, pam wnest ti ddewis yr ast Gymreig ddiflas? Bydd hi’n hunllef llwyr.

“Wrth gwrs, y dyddiau yma, mae’n debyg y byddai wedi cael bygythiadau i’w ladd a’i ddiswyddo o’i gwmi ei hun.”

Ond mae’n dweud ei bod hi’n “hoffi’r ymgeisydd o Gymru”, ei bod hi “braidd yn ddiflas” ond fod ganddi “CV gwych, roedd hi’n alluog, yn mynegi ei hun yn dda ac wedi ateb yr holl ofynion ar gyfer y swydd yn wahanol i’r ymgeiswyr eraill.”

Dywed wedyn fod ei bos wedi bod yn “orfoleddus” pan ddaeth y ddynes yn annibynadwy.

Keith Hann

Ond wrth droi’n ôl at Keith Hann, mae’n dweud nad yw’n sicr a ddylai fod wedi cael ei ddiswyddo.

“Roedd e’n dwp, yn anwybodus ac nid yn garedig ond a oedd e wir wedi sarhau’r genedl Gymreig mor ddrwg â hynny â’i ambell sylw twp ar Twitter?

“Oni allai’r darllenwyr fod wedi ymwroli a derbyn y peth, chwerthin amdano neu deimlo trueni drosto fe yn hytrach na gwichian wrth Iceland?

“Mae’n gwmni Cymreig ac felly, yn amlwg, yn teimlo bod rhaid ymateb yn gyflym yn yr oes sydd ohoni lle mae lynch mobs yn crwydro’r strydoedd ac yn lladd ar ei gilydd, o leiaf yn eiriol, os oes gan rywun farn wrthgyferbyniol.

“A ydw i’n poeni y bydd darllenwyr Cymreig yn codi ac yn fy nghondemnio’n galonnog am beidio â bwrw Hann â cherrig am y loes ofnadwy achosodd e ar genedl fawr?

“Wel bois, mae gyda fi newyddion i chi.”

Mae’n mynd yn ei blaen wedyn i gyfiawnhau ei barn drwy ddweud bod ei theulu’n dod o Gymru, ac mai “enw Cymreig” yw Nicholas.

“Cymro oedd fy nhad, ac fe dreuliais i wyliau yn Llansteffan gyda’m tad-cu a’m llysfam-gu annwy,” meddai cyn troi ar yr iaith Gymraeg.

“Roedden nhw’n casáu siarad Saesneg ac ond yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd a’u cymdogion.

“Pan gyrhaeddais i’r pentref, bydden nhw i gyd yn chwerthin yn dwymgalon ar fy acen ac wedi fy medyddio’n ‘Miss BBC’.

“A ddylwn i, yn saith oed, fod wedi’u ‘canslo’ nhw, gan ysgrifennu llythyron dagreuol, hunangyfiawn adref am y fath dynnu coes poenus? Go brin.”

Iceland yn diswyddo cyfarwyddwr am sylwadau am Gymry a’r Gymraeg

“Rydym yn gwmni balch o Gymru … ac yn ymddiheuro am unrhyw ofid a achoswyd.”