Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am Deyrnas Unedig ffederal wrth iddyn nhw groesawu arweinydd newydd Llafur yr Alban i’w swydd.

Daeth cadarnhad heddiw fod Anas Sarwar wedi’i ethol i olynu Richard Leonard, ar ôl iddo fe ennill 57.6% o’r bleidlais yn erbyn Monica Lennon.

Yn syth wedi’r cyhoeddiad, fe wnaeth Willie Rennie, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban, ddatganiad yn cynnig cydweithio â’r blaid.

“Ers tro, fe fu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn hybu dyfodol ffederal ar gyfer y Deyrnas Unedig ac yn ddiweddar, fe fu cydnabyddiaeth gynyddol gan Gordon Brown ac eraill fod angen diwygio’r bensaernïaeth lywodraethol sy’n sail i’r Deyrnas Unedig,” meddai.

“Dw i’n awyddus i gydweithio ag Anas a’i blaid i wneud diwygio’r Deyrnas Unedig yn realiti.

“Mae’n bryd trwsio’r seiliau y mae tŷ ein cenhedloedd yn eistedd arnyn nhw.”

Annibyniaeth

Yn y cyfamser, mae’r Blaid Werdd yn rhybuddio na ddylai Plaid Lafur yr Alban ddiystyru’r rheiny o fewn y blaid sydd yn cefnogi annibyniaeth.

Mae Anas Sarwar yn galw am roi’r ymgyrch o’r neilltu er mwyn adfer ar ôl Covid-19.

Ond mae Patrick Harvie, arweinydd Plaid Werdd yr Alban, yn rhybuddio bod y Blaid Lafur yn rhanedig ar y mater.

“Mae Anas wedi bod yn glir y byddai Llafur yr Alban yn sefyll yn ffordd yr Albanwyr rhag iddyn nhw gael llais ynghylch eu dyfodol, ond fydd hyn ddim yn dda gan ryw draean o bleidleiswyr Llafur sydd bellach yn dweud y bydden nhw’n cefnogi annibyniaeth,” meddai.

Yn ôl yr SNP, does gan Lafur yr Alban “ddim syniadau newydd, uchelgais na gweledigaeth ar gyfer yr Alban”.

Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwch

Anas Sarwar yw arweinydd newydd Llafur yr Alban

“Yr anrhydedd fwyaf” meddai’r Mwslim cyntaf i arwain un o bleidiau gwleidyddol gwledydd Prydain