Mae cwpl yn dweud eu bod nhw’n grac am nad ydyn nhw’n cael priodi yn yr iaith Gernyweg yng Nghernyw – ac y byddai’n rhaid iddyn nhw deithio i Gymru neu’r Alban er mwyn gwneud hynny.
Roedd Steph Norman ac Aaron Willoughby yn awyddus i briodi’n gyfangwbl yn y Gernyweg yng Nghernyw yn ddiweddarach eleni, ond does dim hawl ganddyn nhw gael gwasanaeth Cernyweg yn ôl y gyfraith yn Lloegr, sydd ond yn rhoi’r hawl i gyplau ailadrodd eu llw yn y ddwy iaith.
Maen nhw’n dweud wrth y wasg leol yng Nghernyw eu bod nhw wedi gwneud cais i’r cyngor yn gofyn am gofrestrydd Cernyweg ei iaith.
“Fe gawson ni atbe yn dweud bod yn rhaid siarad Saesneg yn gyntaf ond fod croeso mawr i ni siarad Cernyweg wedyn ac y bydden nhw’n ceisio dod o hyd i gofrestrydd â sgiliau iaith Gernyweg,” meddai Steph Norman wrth Cornish Live.
“Dydyn ni ddim hyd yn oed yn gwybod a allwn ni gael cofrestrydd sy’n siarad Cernyweg eto.
“Fe gawson ni dipyn o sioc gan ein bod ni’n meddwl y gallen ni wneud y cyfan yn y Gernyweg, ond dydy hynny ddim yn gyfreithlon.
“Yn Lloegr, rhaid i chi ei ddweud e yn Saesneg hefyd.”
Yr Alban a Chymru
Ar ôl ymchwilio, mae’r cwpl wedi dod i wybod beth yw’r gyfraith yn yr Alban ac yng Nghymru.
Yn yr Alban, byddai modd cael y seremoni yn gyfangwbl yn y Gernyweg.
Ac mae hi wedi dod i wybod fod modd cael seremoni uniaith Gymraeg yng Nghymru, ac felly y byddai modd cael seremoni uniaith Gernyweg hefyd.
“Mae gyda ni statws lleiafrifol ond mae’n ymddangos bod hynny’n dda i ddim,” meddai.
“Mae’n warthus, mewn gwirionedd.”
Maen nhw’n dweud nad oes gwerth herio’r gyfraith yn Lloegr gan y byddai’n rhy hwyr ar gyfer eu priodas, ac felly mae’n ymddangos y byddan nhw’n gorfod cael seremoni ddwyieithog os nad ydyn nhw am deithio cryn bellter.
Ond maen nhw’n pwysleisio nad oes bai ar y Cyngor ond yn hytrach, ar gyfreithiau Lloegr.