Fe fydd Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, yn talu teyrnged i Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wrth iddi annerch y gynhadledd Gymreig ar-lein heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 27).

Yn ystod ei hanerchiad, bydd hi’n amddiffyn record Llywodraeth Cymru ac yn dweud mai Mark Drakeford yw’r dyn cywir i arwain y wlad drwy bandemig y coronafeirws, gan fanteisio ar y gwersi i adeiladu Cymru sy’n well.

Bydd hi hefyd yn cymharu record Mark Drakeford a’i Lywodraeth Lafur, “yr unig blaid sy’n ymrwymo i symud Cymru yn ei blaen”, â record Llywodraeth Geidwadol Prydain yng Nghymru, “na fyddan nhw fyth yn sefyll i fyny i’w penaethiaid yn Llundain, hyd yn oed pan fo’u polisïau’n niweidio cymunedau Cymreig”.

Canmol Llafur a beirniadu’r Ceidwadwyr

“Fis Ionawr, galwais i ar y Ceidwadwyr i weithredu yn erbyn Andrew RT Davies am ei drydariadau gwarthus ynghylch y tais yn Capitol yr Unol Daleithiau,” mae disgwyl iddi ei ddweud.

“A wnaethon nhw weithredu? Naddo, fe wnaethon nhw ei wneud e’n arweinydd!”

“Allwn ni ddim gadael i’r Torïaid ennill yng Nghymru.

“Dydy’r Torïaid erioed edi rhoi buddiannau Cymru’n gyntaf, a fyddan nhw fyth yn siarad allan pan fo’u polisïau’n niweidio Cymru.

“Mae’r Torïaid yng Nghymru wedi ymddwyn yn anghyfrifol drwy gydol y pandemig, gan chwarae gwleidyddiaeth yn hytrach na chyd-dynnu, ac wedi osgoi’r penderfyniadau anodd dro ar ôl tro.”

Ond wrth ganmol Llafur Cymru, mae’n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau prydau am ddim yn yr ysglion tan y flwyddyn nesaf.

“Dyna’r gwahaniaeth mae Llafur yn ei wneud mewn grym,” bydd hi’n ei ddweud.

“Yng Nghymru, dydy’r llywodraeth ddim yn gwastraffu arian ar gytundebau ar gyfer rhoddwyr Torïaidd nac yn rhoi hwb i elw a rhandaliadau Serco, mae’r Llywodraeth Lafur yn buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac nid yn eu hanfon allan ac yn eu gwerthu nhw.”

Bydd hi’n dweud bod y Llywodraeth Lafur hefyd wedi sicrhau 500 yn rhagor o blismyn ar y strydoedd i warchod pobol Cymru yn dilyn “y toriadau Torïaidd gwaethaf i blismona ledled y Deyrnas Unedig”.

Canu clodydd Mark Drakeford

Yn ystod ei hanerchiad, mae disgwyl iddi dalu teyrnged i Mark Drakeford gan ddweud ei fod yn “brif weinidog meddylgar a galluog, sydd â chynllun i gael drwy’r pandemig a gweledigaeth i adeiladu Cymru decach, wyrddach, fwy hafal” a bod hynny’n “wrthgyferbyniad â Boris Johnson”.

“Felly dw i eisiau talu teyrnged i Mark am bopeth rydych chi wedi’i wneud dros bobol Cymru yn ystod y pandemig hwn.”