Mae Heddlu’r De wedi bod yn ceisio cadw trefn ar bobol ledled Abertawe a’r traethau cyfagos sy’n parhau i dorri rheolau Covid-19 Llywodraeth Cymru.

Mae’r rheolau’n gwahardd pobol rhag ymgynnull mewn llefydd cyhoeddus, a theithio mewn cerbyd i fynd i wneud ymarfer corff.

Ond mae’r heddlu’n dweud iddyn nhw orfod ymateb i nifer fawr o alwadau gan y cyhoedd yn dilyn adroddiadau bod pobol yn torri’r rheolau ac yn parhau i ymgynnull mewn grwpiau.

Yn dilyn cais gan yr heddlu, mae Cyngor Abertawe wedi cau nifer o feysydd parcio traethau’r ddinas, gan gynnwys Langland, Caswell a Bracelet Bay.

Dywed yr heddlu iddyn nhw orfod ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal y Copper Quarter, gan rybuddio rhieni i gadw trefn ar eu plant.

Ac maen nhw hefyd wedi ymateb i adroddiadau o ddifrod troseddol yn ardaloedd Port Tennant a St Thomas.

“Nid pawb oedd yn bleserus,” meddai un neges gan yr heddlu wrth iddyn nhw atgoffa pobol eu bod nhw’n stopio cerbydau ger y traethau.

Mae’r heddlu hefyd wedi bod yn stopio cerbydau yn ardaloedd Caerdydd a Bro Morgannwg dros y penwythnos.