Mae swyddogion iechyd yn Lloegr yn trio dod o hyd i un o’r bobl gyntaf yn y Deyrnas Unedig y credir sydd wedi’u heintio gydag amrywiolyn y coronofeirws o Frasil.
Credir bod yr amrywiolyn P.1 yn gallu lledaenu’n gynt ac nad yw’n ymateb mor dda i’r brechlynnau Covid-19.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr roedd chwe achos o’r amrywiolyn wedi’u cadarnhau yn y DU, tri yn Lloegr a thri yn yr Alban.
Cafodd dau eu cadarnhau yn Ne Swydd Gaerloyw ond nid yw’r trydydd person wedi cael eu hadnabod ac fe allen nhw fod yn unrhyw le yn y DU. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr nad oedd y person wedi cwblhau eu cerdyn cofrestru prawf ac nad oedd eu manylion cyswllt wedi’u cynnwys.
Maen nhw’n apelio ar unrhyw un oedd wedi cymryd prawf ar Chwefror 12 neu 13 ac sydd heb gael eu canlyniad, neu sydd heb gwblhau’r cerdyn cofrestru, i gysylltu â nhw ar unwaith.
“Gwendidau” yn y system
Yn ôl rhai sydd wedi bod yn feirniadol o’r system, mae’r datblygiad diweddaraf wedi amlygu “gwendidau” yn yr amddiffyniadau ffiniau yn erbyn y mathau hyn o amrywiolyn, ac maen nhw wedi beirniadu’r Llywodraeth am oedi cyn cyflwyno cyfyngiadau llymach.
Mae’n debyg bod y clwstwr yn Swydd Gaerloyw wedi dod gan un person oedd wedi teithio o Frasil a chyrraedd Llundain ar Chwefror 10, bum niwrnod cyn i bolisi’r Llywodraeth ddod i rym oedd yn ei gwneud yn ofynnol i deithwyr fod mewn cwarantin mewn gwestai am 10 diwrnod.
Roedd y teithiwr wedi hunan-ynysu gartref gyda gweddill yr aelwyd o dan y rheolau oedd mewn grym ar y pryd. Roedd un aelod wedi dechrau gyda symptomau Covid cyn cael prawf. Mae’n debyg bod cyfanswm o bedwar prawf positif yn yr aelwyd honno, gyda dau ohonyn nhw’n cael eu cadarnhau fel yr amrywiolyn Manaus o Frasil.
Mae swyddogion yn aros am ganlyniadau dau brawf arall i weld os ydyn nhw wedi’u heintio gan yr amrywiolyn newydd.
“Pryder”
Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr a swyddogion Profi ac Olrhain y Gwasanaeth Iechyd yn cysylltu â theithwyr oedd ar awyren Swiss Air LX318 yn teithio o Sao Paulo, trwy Zurich, a glanio yn Heathrow Llundain ar Chwefror 10.
Maen nhw’n credu nad oedd y person, sydd heb eu lleoli, wedi cael prawf yn un o’r canolfannau prawf rhanbarthol lle mae staff yn gallu gwirio manylion cyswllt, ond fe allai fod yn brawf cartref neu o brofion torfol lleol.
Yn ôl Llywodraeth yr Alban mae’r tri pherson oedd wedi dychwelyd i ogledd ddwyrain yr Alban o Frasil, drwy Baris a Llundain, wedi cael prawf positif am Covid-19.
Cafodd y profion eu cwblhau ym mis Chwefror cyn cael eu trosglwyddo i raglen dilyniant y DU lle cadarnhawyd yr amrywiolyn Manaus.
Mae swyddogion yn cysylltu â theithwyr eraill oedd ar yr awyren o Lundain i Aberdeen.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cael gwybod am yr achosion ac wedi mynegi “pryder”.