Ma deddfwriaeth ddi-fwg wedi dod i rym yng Nghymru heddiw (dydd Llun, Mawrth 1) sy’n gwahardd ysmygu ar dir ysbytai ac ar dir ysgolion yng Nghymru.

Mae’r ddeddf, y gyntaf o’i math yn y Deyrnas Unedig, yn golygu y bydd yn ofynnol i dir ysbytai, tir ysgolion, meysydd chwarae cyhoeddus a mannau awyr agored lleoliadau gofal dydd a gwarchod plant yng Nghymru fod yn ddi-fwg.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Eluned Morgan fod y ddeddf “o fudd i iechyd cenedlaethau’r dyfodol”.

Gallai unrhyw un sy’n torri’r gyfraith dderbyn dirwy o hyd at £100.

Mae system seinyddion gyda botwm y gellir ei bwyso yn cael ei gosod wrth fynedfeydd Ysbyty Athrofaol y Faenor, sydd newydd ei hadeiladu yng Nghwmbrân, ac Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Bydd y seinyddion yn galluogi unrhyw un sy’n gweld rhywun yn ysmygu ar y safle i bwyso’r botwm yn ddienw, tra bydd neges sydd wedi’i recordio yn cael ei chwarae i atgoffa pobol bod ysmygu wedi’i wahardd.

Bydd swyddogion gorfodi di-fwg hefyd ar dir ysbytai, er mwyn sicrhau nad yw pobol yn ysmygu.

Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn cynnwys mannau lle mae plant a phobl ifanc yn treulio eu hamser – megis tir ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal â mannau awyr agored lleoliadau gofal dydd plant a lleoliadau gwarchod plant.

“Mae gan bawb gyfrifoldeb i gefnogi’r polisi”

“Mae’r rhan fwyaf o ysmygwyr yn stopio ysmygu pan rwy’n mynd atyn nhw,” meddai Matt Lloyd, un o Swyddogion Gorfodi Di-fwg Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

“Rwy’n eu hatgoffa o’n polisi amgylchedd di-fwg a’r ddeddf newydd. Os oes rhywun yn gwrthod stopio ysmygu, rwy’n egluro wrthyn nhw pam fod gennym y polisi a’r ddeddf.

“Os yw’r person yn glaf yn yr ysbyty, galla’ i gysylltu â’i reolwr ward a fydd yn cynnig therapi disodli nicotin iddo i helpu i leihau’r ysfa i ysmygu.

“Mae gan bawb gyfrifoldeb i gefnogi’r polisi di-fwg a’r ddeddf newydd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cynnig profiad diogel a chadarnhaol i staff, cleifion ac ymwelwyr pan fyddan nhw’n defnyddio ein Gwasanaeth Iechyd.”

“O fudd i iechyd cenedlaethau’r dyfodol”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Eluned Morgan: “Rydyn ni’n hynod o falch o ddod â’r ddeddf hon i rym heddiw, gan wneud tir ysbytai, tir ysgolion, meysydd chwarae a lleoliadau awyr agored gofal plant yn ddi-fwg yng Nghymru.

“Bydd y ddeddf newydd nid yn unig yn helpu ysmygwyr i roi’r gorau iddi, ond bydd hefyd yn annog eraill i beidio â dechrau ysmygu yn y lle cyntaf.

“Rydyn ni wedi gweld effaith y gwaharddiad ar ysmygu dan do ac yn gobeithio y bydd y gwaharddiad hwn yr un mor llwyddiannus.

“Bydd y ddeddfwriaeth hon o fudd i iechyd cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, gan y bydd llai o blant yn dod i gysylltiad ag ysmygu ac felly’r gobaith yw y bydd llai ohonyn nhw’n dechrau ysmygu eu hunain.

“Mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i drechu effeithiau niweidiol ysmygu.

“Mae adnoddau a gwasanaethau cymorth ar gael gan Helpa Fi i Stopio ar gyfer y rhai sydd am roi’r gorau iddi, ac rwy’n gobeithio y bydd ein gwaith heddiw yn arwain at Gymru iachach a di-fwg am flynyddoedd i ddod.”

“Cam da ymlaen”

Wrth ymateb i’r deddfwriaeth ddi-fwg o heddiw ymlaen (1 Mawrth), dywedodd Dr Olwen Williams, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru:  “Bydd y newidiadau hyn i’r gyfraith yn amddiffyn mwy o bobl rhag clefydau sy’n gysylltiedig â thybaco.

“Rydym wedi cyflawni cymaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond ysmygu yw prif achos marwolaeth gynamserol yng Nghymru o hyd, gan ladd miloedd o bobl bob blwyddyn.

“Mae gwahardd ysmygu ar dir ysbytai i’w groesawu’n arbennig i’n haelodau.

“Ni ddylai neb orfod cerdded drwy gwmwl o fwg ail-law i gyrraedd eu man gwaith.

“Mae’r ddeddfwriaeth newydd hon yn gam da ymlaen.”