Mae’r heddlu yn ninas fwyaf Myanmar wedi tanio nwy dagrau at dorfeydd o bobl sydd wedi dychwelyd i’r strydoedd i brotestio yn erbyn y fyddin sydd wedi cipio grym yn y wlad.

Daeth y protestwyr yn ôl i’r strydoedd er gwaetha adroddiadau bod lluoedd diogelwch wedi lladd o leiaf 18 o bobl ar draws y wlad y diwrnod cynt.

Cafodd protestwyr eu herlid wrth iddyn nhw geisio dod at ei gilydd yn eu man cyfarfod arferol ger Canolfan Hledan.

Yn y brifddinas, Naypyitaw, roedd arweinydd y wlad Aung San Suu Kyi, a gafodd ei disodli wedi coup milwrol yn y wlad ar Chwefror 1, wedi ymddangos gerbron llys drwy gyswllt fideo, yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau.

Mae hi wedi’i chyhuddo o honiadau o annog aflonyddwch, yn ôl yr adroddiadau.

Cafodd Aung San Suu Kyi, 75 oed, ei chadw gan y fyddin yn ei chartref yn Naypyitaw ar ddechrau’r coup, ond yn ôl ei phlaid, y Gynghrair Genedlaethol er Democratiaeth, nid ydyn nhw’n gwybod lle mae hi’n cael ei chadw ar hyn o bryd.

Os yw hi’n ei chael yn euog o’r cyhuddiadau yn ei herbyn, fe allai fod yn fodd cyfreithiol i’w hatal rhag sefyll yn yr etholiad mae’r fyddin wedi’i addo ymhen blwyddyn.

Credir bod o leiaf pump o bobl wedi’u saethu yn Yangon ddydd Sul ar ôl i’r heddlu danio at brotestwyr. Maen nhw’n galw am adfer grym i lywodraeth Aung San Suu Kyi.

Roedd y Cenhedloedd Unedig wedi derbyn adroddiadau bod 18 o bobl wedi’u lladd a 30 o rai eraill wedi’u hanafu ar ôl i luoedd diogelwch danio gynau atyn nhw ym Myanmar ddydd Sul.

Mae’n debyg bod tua 1,000 o bobl wedi’u harestio yn ystod protestiadau ddydd Sul.