Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £50m yn ychwanegol tuag at welliannau i adeiladau ysgolion ledled Cymru.

Yn ôl y Llywodraeth, bydd y cyllid yn caniatáu i awdurdodau lleol gyflawni prosiectau cynnal a chadw ar raddfa fawr, megis toeau newydd, ffenestri newydd neu systemau gwresogi ac awyru, yn hytrach nag atgyweiriadau rheolaidd ar raddfa fach.

Mae’r cyllid yn ychwanegol at raglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer y 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, sydd wedi gweld 170 o ysgolion neu golegau newydd yn cael eu hadeiladu yn ystod y cam cyntaf, gyda 43 o brosiectau eraill eisoes wedi’u cymeradwyo ar gyfer yr ail gam.

“Gwaith brys”

Mae colegau addysg bellach eisoes wedi cael £10m yn ychwanegol eleni ar gyfer cynnal a chadw a phrosiectau ar raddfa fach.

“Mae ein rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif wedi arwain at ddatblygu prosiectau adeiladu ysgolion newydd ar hyd a lled Cymru, gan ddarparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i’n dysgwyr,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

“Er ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn ysgolion newydd sbon, rwy’ hefyd yn cydnabod y pwysau sydd ar awdurdodau lleol i gynnal ein hysgolion presennol.

“Bydd y cyllid hwn yn helpu awdurdodau lleol i wneud gwaith brys i gadw ein hysgolion mewn cyflwr da ar gyfer y dyfodol.”

 “Helpu awdurdodau lleol”

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd Addysg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: “Rydym yn croesawu’r £50m ychwanegol hwn a fydd yn helpu awdurdodau lleol i gynnal eu hystadau ysgol.

“Mae hyn yn ychwanegol at raglen ehangach Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif, sydd wedi gweld cynifer o adeiladau newydd yn cael eu hadeiladu mewn cymunedau ledled Cymru i wella profiad addysg dysgwyr.

“Ni fyddai rhaglen waith drawsnewidiol o’r fath wedi bod yn bosibl heb waith partneriaeth cryf rhwng awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, ac edrychaf ymlaen at barhau â’r ymdrech honno ar y cyd yn ngham nesaf y rhaglen.”