Mae awdurdodau Sbaen yn bwriadu difa 895 o wartheg sydd wedi bod ar long yn y Môr Canoldir ers deufis ac sydd bellach yn anaddas i’w hallforio.

Hwyliodd y llong o borthladd Cartagena ar Ragfyr 18 a’r bwriad oedd i’r gwartheg gael eu hanfon i Dwrci.

Ond fe wnaeth awdurdodau’r wlad honno wrthod yr hawl i’r llong aros yno yn sgil pryderon iechyd.

Ar ôl ail ymgais i ollwng y gwartheg yn Libya, dychwelodd y llong i Cartagena yn dilyn gorchymyn gan awdurdodau Sbaen.

Yn dilyn archwiliad gan filfeddygon y llywodraeth, daeth cadarnhad y byddai’r gwartheg yn cael eu difa gan eu bod nhw’n anaddas i’w hallforio neu eu dychwelyd i Sbaen.

Yn ôl Llywodraeth Sbaen, roedd gan y gwartheg awdurdod i deithio, ac mae ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid wedi beirniadu’r penderfyniad i’w difa.