Mae pôl gan Survation yn dangos bod y ganran sydd o blaid annibyniaeth i’r Alban wedi gostwng i 50% am y tro cyntaf ers mis Mehefin y llynedd.

Cafodd 1,000 o Albanwyr eu holi ar ran y Sunday Mail, a hynny ar drothwy etholiadau Holyrood ym mis Mai.

Yn ôl y pôl, mae nifer y cefnogwyr a’r gwrthwynebwyr yn gyfartal o dynnu’r rhai ansicr allan o’r canlyniadau.

Ond o gynnwys y rheiny, 44% sydd o blaid a 43% yn erbyn, gyda 13% yn dweud eu bod yn ansicr.

Mewn pôl blaenorol gan Survation ar ran blog ‘Scot Goes Pop’ fis Ionawr, roedd 51% o blaid annibyniaeth a 49% yn erbyn.

Pleidleisiodd 45% o blaid a 55% yn erbyn annibyniaeth yn y refferendwm yn 2014.

Ymateb

Mae’r mudiad Scotland in Union wedi croesawu’r canlyniadau, tra bod yr SNP yn parhau’n ffyddiog o lwyddo yn etholiadau Holyrood.

“Mae i’w groesawu fod y gefnogaeth i aros yn y Deyrnas Unedig ar gynnydd,” meddai Pamela Nash, prif weithredwr Scotland in Union.

“Mae pobol yn cydnabod, wrth i ni ddod o hyd i’n ffordd allan o’r argyfwng Covid gyda rhaglen frechu lwyddiannus ledled y Deyrnas Unedig, ein bod ni’n gryfach gyda’n gilydd.

“Mae gan yr SNP obsesiwn â cheisio rhannu’r Alban, ond dylai cydweithio ar adferiad i bawb yn y wlad fod yn flaenoriaeth.”

Ond yn ôl Keith Brown, dirprwy arweinydd yr SNP, lles y bobol sydd bwysicaf i’r blaid ar drothwy’r etholiadau.

“Mae’r SNP yn parhau â lles yr Alban wrth ei chalon, a byddwn yn gweithio’n galed bob dydd i adfer ymddiriedaeth a hyder pobol yr Alban,” meddai.

“Mae pobol yr Alban wedi dangos, mewn un pôl ar ôl y llall ac un etholiad ar ôl y llall, eu bod nhw’n ymddiried yn Nicola Sturgeon a’r SNP i arwain yr Alban drwy’r pandemig coronafeirws a thu hwnt.

“Mae etholiad mis Mai yn cynnig dau ddewis i’r Alban: mwy o dorri addewidion a mesurau llymder o dan Boris Johnson, neu’r hawl i ddewis a oes gan yr Alban ddyfodol adeiladol o fewn yr Undeb Ewropeaidd fel gwlad annibynnol.

“Gyda’r ddwy bleidlais i’r SNP, gallwn gyflwyno adferiad cryf, teg a gwyrdd a rhoi dyfodol yr Alban yn nwylo’r Alban – ac nid yn nwylo Boris Johnson.”

Alex Salmond

Cafodd yr arolwg ei gynnal y diwrnod cyn i Alex Salmond fynd gerbron gwrandawiad a honni bod Llywodraeth yr Alban yn euog o gynllwyn “maleisus a bwriadol” i’w bardduo yn dilyn honiadau am ei ymddygiad rhywiol.

Mae e wedi ailadrodd yr honiadau sawl gwaith.

Cyn y gwrandawiad, roedd 39% o’r rhai a gafodd eu holi yn credu bod Llywodraeth yr Alban yn euog o gelu’r gwirionedd.

Dywedodd tua 50% y dylai’r prif weinidog Nicola Sturgeon gamu o’r neilltu pe bai’n dod i’r amlwg mewn gwrandawiad arall ei bod hi wedi torri’r cod gweinidogol.