Mae 11 o awdurdodau lleol Cymru, sef hanner ohonyn nhw, bellach wedi cymryd camau i reoli’r perygl mae tân gwyllt yn ei achosi i anifeiliaid.

Y Cyngor Sir diweddaraf i ymuno â’r rhestr sydd yn mynnu bod rhaid i arddangosfeydd tân gwyllt gael caniatâd ganddyn nhw ymlaen llaw yw Cyngor Sir Penfro.

Mae RSPCA Cymru wedi bod yn pryderu ers tro am yr effaith mae tân gwyllt yn ei chael ar anifeiliaid anwes ac anifeiliaid eraill, ac maen nhw’n derbyn tua 400 o alwadau bob blwyddyn ynghylch materion lles anifeiliaid sy’n gysylltiedig â thân gwyllt.

Yn ôl ymchwil yn ddiweddar, fe fu cynnydd o 12% mewn arddangosfeydd mewn gerddi preifat oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws.

‘Newyddion gwych i anifeiliaid’

Daw’r penderfyniad gan awdurdodau lleol yn dilyn ymgyrch #BangOutOfOrder gan yr elusen.

“Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobol yn caru tân gwyllt, ond mae ein hymgyrch yn ceisio annog defnydd mwy cyfrifol, a sicrhau y gellir paratoi pobol fel y gallant gymryd camau i sicrhau bod tân gwyllt yn llai brawychus a pheryglus i anifeiliaid,” eglura Lewis Clark, cynghorydd materion cyhoeddus yr RSPCA.

“Mae tua 62% o gŵn yn dangos arwyddion o drallod yn ystod tân gwyllt.

“Mae hyn ar ei ben ei hun yn golygu bod miloedd lawer o anifeiliaid yn cael eu heffeithio gan dân gwyllt heb ei gynllunio ac ar hap bob blwyddyn – ond bydd camau fel y rhai a wneir gan Gyngor Sir Penfro yn helpu i newid hyn.

“Mae’n newyddion gwych i anifeiliaid.”

Galw am newid ledled Cymru

Mae’r Cynghorydd Guy Woodham, a awgrymodd y newid yng nghyfarfod llawn o Gyngor Sir Benfro yn ddiweddar, yn awyddus i weld rhagor o awdurdodau lleol yn cymryd yr un cam.

“Byddai’n wych gweld pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru’n mabwysiadu’r un drefn neu hysbysiadau tebyg cyn gynted â phosibl ac i Lywodraeth y DU ddeddfu yn unol â hynny,” meddai.

“Does dim bwriad i atal pobol rhag mwynhau arddangosfeydd tân gwyllt wedi’u trefnu ond i fynd i’r afael ag effaith sŵn tân gwyllt ar bobol, anifeiliaid anwes, bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm sydd wedi bod yn bryder cynyddol ers blynyddoedd lawer.”

Derbyniodd y cynnig gefnogaeth lawn Cabinet Cyngor Sir Benfro.