Mae awdurdod hedfan sifil Pacistan wedi ymestyn cyfyngiadau ar deithio o wledydd Prydain, De Affrica a rhai gwledydd eraill tan Fawrth 14 er mwyn osgoi lledaeniad amrywiolion coronafeirws newydd mwy heintus.

Cafodd y mesurau eu gosod ym mis Ionawr ar ôl i wledydd eraill hefyd gyflwyno cyfyngiadau ar deithio o wledydd Prydain a De Affrica.

Yn ddiweddarach, gosododd Pacistan gyfyngiadau tebyg ar deithio o Bortiwgal, yr Iseldiroedd, Tanzania, Botswana, Colombia, Comoros, Ghana, Iwerddon, Cenia, Zambia, Brasil a Mozambique.

Bydd y cyfyngiadau hyn hefyd yn parhau tan Fawrth 14.

Daw’r datblygiad diweddaraf wrth i Bacistan adrodd am 42 o farwolaethau ychwanegol, gan ddod â chyfanswm y wlad i 12,938.

Adroddodd y wlad 1,163 o achosion newydd.